Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 20182
1
Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 20183 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl rheoliad 6 mewnosoder—
Tatws sy’n tarddu o Libanus: ffi6A
1
Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio ag is-rywogaethau Clavibacter michiganensis (Spieckermann and Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £70.83 mewn cysylltiad â phob lot sy’n cael ei samplu.
2
Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1614 sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus4.
3
Yn lle Atodlen 2 rhodder—
ATODLEN 2Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol
Genws
Gwlad Tarddiad
Ffi (£)
Blodau wedi eu torri
Aster
Zimbabwe
32.06
Dianthus
Colombia
1.28
Ecuador
6.41
Kenya
2.14
Twrci
6.41
Rosa
Colombia
1.28
Ecuador
0.43
Ethiopia
2.14
Kenya
4.28
Tanzania
21.38
Zambia
4.28
Canghennau gyda deiliant
Phoenix
Costa Rica
17.00
Ffrwythau
Actinidia
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Carica papaya
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Citrus
Yr Aifft
39.83
Mecsico
26.55
Moroco
1.59
Periw
5.31
Twrci
1.59
UDA
13.28
Cydonia
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)
2.66
Fragaria
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Malus
Yr Ariannin
18.59
Brasil
26.55
Chile
2.66
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)
2.66
Seland Newydd
5.31
De Affrica
2.66
Mangifera
Brasil
26.55
Passiflora
Colombia
3.72
Kenya
13.28
De Affrica
26.55
Fiet-nam
13.28
Zimbabwe
39.83
Persea americana
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Prunus
Yr Ariannin
39.83
Chile
5.31
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)
2.66
Moroco
26.55
Twrci
18.59
Prunus ac eithrio prunus persica
De Affrica
5.31
Pyrus
Yr Ariannin
7.97
Chile
7.97
Tsieina
26.55
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)
2.66
De Affrica
5.31
Ribes
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)
2.66
Rubus
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Vaccinium
Yr Ariannin
13.28
Chile
5.31
Periw
5.31
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)
2.66
Vitis
Unrhyw drydedd wlad
2.66
Llysiau
Solanum lycopersicon
Yr Ynysoedd Dedwydd
2.66
Moroco
2.66
Solanum melongena
Twrci
7.97
(1)Mae “drydedd wlad yn Ewrop” yn cynnwys Albania, Andorra, Armenia, Azerbaijan, Belarws, Bosnia-Herzegovina, Yr Ynysoedd Dedwydd, Ynysoedd Faröe, Georgia, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Moldofa, Monaco, Montenegro, Gogledd Macedonia, Norwy, Rwsia (dim ond y rhannau a ganlyn: Y Rhanbarth Ffederal Canolog (Tsentralny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y Gogledd-orllewin (Severo-Zapadny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y De (Yuzhny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws (Severo-Kavkazsky federalny okrug) a Rhanbarth Ffederal y Folga (Privolzhsky federalny okrug)), San Marino, Serbia, Twrci ac Ukrain.