Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Esemptiad rhag y gofyniad gwybodaeth i gategorïau penodol o weithwyr

3.—(1Yn Rhan 2 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i ddarparu gwybodaeth), mae rheoliad 3 wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ym mharagraff (2), yn lle “person a ddisgrifir yn Rhan 1 o Atodlen 2” rhodder

(a)person a ddisgrifir yn Rhan 1 o Atodlen 2,

(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(b) o Atodlen 2 (gweithwyr gweithredol, cynnal a chadw a diogelwch sy’n gweithio ar Dwnnel y Sianel), neu

(c)person a ddisgrifir ym mharagraff (3), y mae’r amod ym mharagraff (4) wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag ef.

(3Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Y disgrifiadau o bersonau yw—

(a)person sy’n weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd, o fewn ystyr paragraff 6 o Atodlen 2;

(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 7 o Atodlen 2 (meistri a morwyr);

(c)person a ddisgrifir ym mharagraff 8 o Atodlen 2 (peilotiaid ar longau masnach);

(d)person a ddisgrifir ym mharagraff 9 o Atodlen 2 (arolygwyr a syrfewyr llongau);

(e)person a ddisgrifir ym mharagraff 10 o Atodlen 2 (criw awyren);

(f)person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(a) neu (c) o Atodlen 2 (gyrwyr, criw a phersonau eraill sy’n cyflawni swyddogaethau hanfodol mewn cysylltiad â Thwnnel y Sianel).

(4) Mae’r amod a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson os nad yw’r person, ar ei daith i Gymru, ond wedi teithio—

(a)ar long neu awyren nad yw’n cludo teithwyr;

(b)mewn rhan o long neu awyren nad yw teithwyr yn cael mynd iddi.

Esemptiad rhag y gofyniad i ynysu i bersonau sy’n teithio o wledydd a thiriogaethau penodol y tu allan i’r ardal deithio gyffredin

4.—(1Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i ynysu etc.) wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2Yn rheoliad 7 (gofyniad i ynysu: cyrraedd o fan y tu allan i’r Deyrnas Unedig)—

(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin” rhodder “wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt”;

(b)ym mharagraff (1)(b)(i), yn lle “Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw” rhodder “wlad neu diriogaeth esempt nad yw’n rhan o’r Deyrnas Unedig”;

(c)ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle “sydd wedi cyrraedd yr ardal deithio gyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno” rhodder “sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt”.

(3Yn rheoliad 8 (gofyniad i ynysu: cyrraedd o ran arall o’r Deyrnas Unedig), ym mharagraff (1)(b), yn lle “cyrraedd yr ardal deithio gyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno” rhodder “bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt”.

(4Yn rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau)—

(a)mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (2);

(b)o flaen y paragraff hwnnw mewnosoder—

(1) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” yw—

(a)gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin;

(b)gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3;

ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” i’w ddehongli yn unol â hynny.

(5Yn rheoliad 12 (ystyr “diwrnod olaf yr ynysu” yn Rhan 3), yn lle “y cyrhaeddodd P yn yr ardal deithio cyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno” rhodder “yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf”.

(6Yn Rhan 1 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol), yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw person sy’n cyrraedd gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt (o fewn ystyr rheoliad 9(1)) ar long neu awyren i’w drin fel pe bai wedi bod yn y man hwnnw oni bai—

(a)bod y person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, neu

(b)pan na fo’r person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, bod unrhyw deithwyr eraill yn mynd ar y llong neu’r awyren yn y man.

(7Yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwybodaeth am deithiwr), ar ôl paragraff 2(i) mewnosoder—

(ia)unrhyw wlad neu diriogaeth arall y bydd P ynddi, neu y mae P wedi bod ynddi, yn ystod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, neu y mae’n bwriadu cyrraedd y Deyrnas Unedig,

(ib)pan fo is-baragraff (ia) yn gymwys, y dyddiadau yr oedd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall neu y bydd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall,.

(8Mae paragraff 1 o’r Atodlen yn ychwanegu Atodlen 3 newydd i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Eithriadau i’r gofynion ynysu: personau sy’n ymwneud â gweithgareddau chwaraeon penodol

5.—(1Mae rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (eithriadau i’r gofynion ynysu) wedi ei ddiwygio yn unol ag is-baragraffau (a) i (c)—

(a)ym mharagraff (3)—

(i)yn y testun Cymraeg yn unig, yn lle’r geiriau o “i’r Deyrnas Unedig” hyd y diwedd rhodder “i Gymru dros dro at ddiben a awdurdodir gan baragraff (4)(b) i (k).”;

(ii)yn y testun Saesneg yn unig, yn lle “(j)” rhodder “(k)”;

(b)ar ôl paragraff (4)(j) mewnosoder—

(ja)pan fo P yn cystadlu mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4 neu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu mewn digwyddiad o’r fath, i gymryd rhan yn y digwyddiad neu i ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad;

(jb)pan fo P yn gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, neu’n ymwneud â’i gynnal, i fynd i’r digwyddiad neu i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwasanaethu fel swyddog neu gynnal y digwyddiad;

(jc)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â darlledu digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben y darllediad neu i ymgymryd â gweithgareddau paratoi sy’n gysylltiedig â darlledu’r digwyddiad;

(jd)pan fo P, yng nghwrs ei waith, yn ymwneud â gweithgarwch newyddiadurol mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, i fynd i’r digwyddiad at ddiben ymgymryd â’r gweithgarwch hwnnw;

(je)pan fo P yn athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru ac yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor, i hyfforddi neu gystadlu;

(jf)pan fo P yn darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru a bod P yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor pan oedd P yn darparu hyfforddiant neu gymorth arall o’r fath i athletwr, i ddarparu’r hyfforddiant neu’r cymorth arall hwnnw;

(jg)pan fo P yn dychwelyd o gystadleuaeth elît dramor yr oedd P yn gwasanaethu fel swyddog ynddi, neu’n ymwneud â’i chynnal, i wasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît ddomestig neu i ymwneud â’i chynnal;

(c)ym mharagraff (8)—

(i)yn y testun Cymraeg yn unig, mae’r testun presennol sy’n ymddangos ar ôl y geiriau “y rheoliad hwn—” yn dod yn is-baragraff (a),

(ii)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(b)ystyr “cystadleuaeth elît ddomestig” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig;

(c)ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon lle y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu—

(i)i ennill bywoliaeth, neu

(ii)i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o broses ddethol ar gyfer hynny;

(d)ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae P i’w drin fel pe bai’n dychwelyd o’r gystadleuaeth honno os yw P, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â diwrnod ynysu olaf P, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion y gystadleuaeth honno;

(e)ystyr “athletwr elît sy’n preswylio yng Nghymru” yw person sy’n preswylio yng Nghymru fel arfer ac—

(i)yn ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp, neu

(ii)yn athletwr elît o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 1 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(1).

(2Mae paragraff 2 o’r Atodlen yn ychwanegu Atodlen 4 newydd i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Esemptiadau i bersonau sy’n ymwneud â gweithgareddau penodol

6.—(1Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt) wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (9).

(2Ym mharagraff 3—

(a)hepgorer y gair “neu” ar ôl is-baragraff (1)(a);

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(aa)sydd wedi teithio o wlad neu diriogaeth esempt ar lestr neu awyren a weithredir gan luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu sy’n eu cefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad neu sy’n ei gefnogi, ac nad oes unrhyw bersonau wedi mynd ar y llestr hwnnw neu’r awyren honno, nad yw wedi docio mewn unrhyw borthladd nac wedi glanio mewn unrhyw wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu;

(c)yn is-baragraff (1)(b)—

(i)ar ôl “Wasanaeth Llyngesol Ei Mawrhydi” mewnosoder “, neu sy’n ei gefnogi, neu gan lu ar ymweliad neu i’w gefnogi”;

(ii)yn lle “y tu allan i’r ardal deithio gyffredin” rhodder “mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt”.

(3Ym mharagraff 13(1)(b), hepgorer y geiriau o “ond—” hyd y diwedd.

(4Ar ôl paragraff 17 mewnosoder—

17A.(1) Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys sy’n gysylltiedig â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol ar ran—

(a)Asiantaeth yr Amgylchedd;

(b)Cyfoeth Naturiol Cymru;

(c)awdurdod llifogydd lleol arweiniol yng Nghymru;

(d)awdurdod llifogydd lleol arweiniol yn Lloegr.

(2) Yn is-baragraff (1), mae i “rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol” ac “awdurdod llifogydd lleol arweiniol” yr ystyron a roddir i “flood and coastal erosion risk management” a “lead local flood authority” gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(2).

17B.  Gweithiwr sy’n gwneud gwaith hanfodol neu waith brys sy’n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddio sydd ar waith ar hyn o bryd neu a fu gynt ar waith ar ran—

(a)yr Awdurdod Glo(3);

(b)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(c)Cyfoeth Naturiol Cymru.

(5Ym mharagraff 24—

(a)yn is-baragraff (1), yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “sy’n ymgymryd â’r canlynol, neu y mae’n ofynnol iddo gychwyn y canlynol” rhodder “y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â’r canlynol neu gychwyn y canlynol o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig”

(b)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “osodiadau alltraeth neu mewn perthynas â hwy” rhodder “osodiad alltraeth neu mewn perthynas ag ef”;

(c)yn is-baragraff (1)(c), yn lle “osodiadau alltraeth a ffynhonnau sy’n cael eu datgomisiynu neu eu cadw hyd nes cânt eu dymchwel neu eu hailddefnyddio” rhodder “gosodiad alltraeth sy’n cael ei ddatgomisiynu neu ei gadw hyd nes y caiff ei ddymchwel neu ei ailddefnyddio neu ffynnon sy’n cael ei datgomisiynu neu ei chadw hyd nes y caiff ei dymchwel neu ei hailddefnyddio”;

(d)yn is-baragraff (2)(a), yn lle ““gosodiadau alltraeth” yr ystyr a roddir i “offshore installations”” rhodder ““gosodiad alltraeth yr ystyr a roddir i “offshore installation””;

(e)yn is-baragraff (2)(c), yn lle ““ffynhonnau” yr ystyr a roddir i “wells”” rhodder ““ffynnon” yr ystyr a roddir i “well””.

(6Ym mharagraff 27, yn lle “(gan gynnwys comisiynu,” rhodder “(gan gynnwys adeiladu, comisiynu, gosod,”.

(7Yn lle paragraff 28 rhodder—

28.(1) Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunydd a ffurfir o gelloedd neu waed dynol, neu sy’n eu cynnwys, ac sydd i’w defnyddio er mwyn darparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd.

(2) At ddibenion y paragraff hwn—

mae “gwaed” (“blood”) yn cynnwys cydrannau gwaed;

mae i “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yr ystyr a roddir gan reoliad 10(8).

(8Hepgorer paragraff 29.

(9Ar ôl paragraff 36 mewnosoder—

37.  Person sy’n ymwneud â gwneud—

(a)ffilm sy’n ffilm Brydeinig at ddibenion Atodlen 1 i Ddeddf Ffilmiau 1985(4), neu

(b)rhaglen deledu sy’n rhaglen Brydeinig at ddibenion Rhan 15A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009(5).

Darpariaeth drosiannol: personau a gyrhaeddodd yr ardal deithio gyffredin cyn 10 Gorffennaf 2020

7.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person wedi cyrraedd yr ardal deithio gyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben yn union cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(2Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys i’r person fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 i 6 o’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud, ond mewn perthynas yn unig â’r cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyrhaeddodd y person yr ardal deithio gyffredin.

(3Mae i “ardal deithio gyffredin” yn y rheoliad hwn yr ystyr a roddir i “common travel area” gan Ddeddf Mewnfudo 1971(6).

Newid y cyfnod adolygu

8.  Yn Rhan 6 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (adolygu a dod i ben), yn rheoliad 19 (adolygu’r gofynion), yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b)erbyn 27 Gorffennaf 2020;

(c)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 28 Gorffennaf 2020;

(d)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 28 o ddiwrnodau.

Diwygiadau amrywiol

9.—(1Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Yn rheoliad 9(2)(a) (fel y mae wedi ei ailrifo gan reoliad 3(4)(a) o’r Rheoliadau hyn), yn lle “mharagraff 2” rhodder “mharagraff 1(2)”.

(3Yn rheoliad 17(10), yn lle “mharagraff (8)” rhodder “mharagraff (9)”.

(4Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 1(2), yn y geiriau o flaen paragraff (1), yn lle “9(a)” rhodder “9(2)(a)”;

(b)ym mharagraff 21(1), yn y testun Saesneg yn unig—

(i)yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “person” mewnosoder “who is”,

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “is a spacecraft controller who is” rhodder “a spacecraft controller”.

(1)

O.S. 2020/353 (Cy. 80) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399 (Cy. 88)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452 (Cy. 102)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/497 (Cy. 118)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/529 (Cy. 124)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/557 (Cy. 129)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/619 (Cy. 141)) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S.2020/686 (Cy. 153)).

(3)

Mae’r Awdurdod Glo yn gorff corfforedig a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 (p. 21).

(4)

1985 p. 21; amnewidiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Cyllid 2006 (p. 25) ac mae wedi bod yn destun nifer fawr o ddiwygiadau gan Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009 (p. 4) ac O.S. 2006/643, 2006/3430, 2012/1809, 2015/86 a 2018/1105.

(5)

Mewnosodwyd Rhan 15A gan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid 2013 (p. 39) .

(6)

1971 p. 77. Gweler adran 1(3). Mae’n darparu bod y Ddeddf honno yn cyfeirio at y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda’i gilydd fel “the common travel area”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources