Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.

Mae’r Rheoliadau yn disodli Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/353 (Cy. 80)) fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2020/399 (Cy. 88), O.S. 2020/452 (Cy. 102), O.S. 2020/497 (Cy. 118), O.S. 2020/529 (Cy. 124), O.S. 2020/557 (Cy. 129), O.S. 2020/619 (Cy. 141) ac O.S. 2020/686 (Cy. 153).

Mae 5 Rhan i’r Rheoliadau.

Mae Rhan 1 yn cynnwys termau wedi’u diffinio (rheoliad 2); yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu cymesuredd y cyfyngiadau a’r gofynion, a’r angen amdanynt, o leiaf unwaith bob 21 o ddiwrnodau (rheoliad 4); ac yn darparu y bydd y Rheoliadau hyn yn dod i ben ar 8 Ionawr 2021 (rheoliad 5). Mae’r Rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n addasu’r cyfyngiadau niferus ar unigolion yn y Rheoliadau sy’n cyfyngu ar y rhyngweithio ag unrhyw un nad yw’n aelod o’r un aelwyd. Mae hyn yn caniatáu i aelodau o ddwy aelwyd gytuno i ffurfio un aelwyd (estynedig), sy’n golygu y gall aelodau’r aelwydydd hynny ryngweithio â’i gilydd fel pebaent yn aelodau o un aelwyd.

Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau a mangreoedd penodol gau. Mae’r rhain wedi eu rhestru yn Atodlen 1 (mangreoedd sy’n gwerthu bwyd a diod), Atodlen 2 (cyfleusterau hamdden neu ddiwylliant dan do a gwasanaethau harddwch yn gyffredinol) ac Atodlen 3 (llety gwyliau). Mae’r gofynion i gau, fodd bynnag, yn ddarostyngedig i eithriadau niferus. Mae’r rhain yn cynnwys darparu bwyd a diod i fynd â hwy i ffwrdd a bwyta ac yfed mewn mangreoedd sydd yn yr awyr agored (rheoliad 6); caniatáu i fangreoedd gael eu defnyddio at ddibenion penodol wedi eu rhestri (rheoliad 7); caniatáu i lety hunangynhwysol mewn gwestai a safleoedd gwyliau fod ar agor, a chaniatáu i fathau eraill o lety o’r fath agor ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol (rheoliad 8). Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth benodol ynghylch amlosgfeydd a chanolfannau cymunedol y mae rhaid iddynt gau yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, ac mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gau rhai llwybrau cyhoeddus a thir y gall y cyhoedd fydn iddynt.

Mae Rhan 3 yn gosod rhwymedigaethau ar bersonau sy’n gyfrifol am fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd, neu ar waith sy’n cael ei wneud mewn unrhyw fangre, at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws yn y fangre. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol bod: (1) pob mesur rhesymol yn cael ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre; (2) unrhyw fesurau rhesymol eraill yn cael eu cymryd, er enghraifft, i gyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb a chynnal hylendid; a (3) gwybodaeth yn cael ei darparu i’r rhai sy’n mynd i mewn i fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws. Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer dyroddi canllawiau ynghylch cymhwyso’r gofynion a osodir gan reoliad 12 yn ymarferol, a rhaid i’r rhai sy’n ddarostyngedig i’r gofynion roi sylw i’r canllawiau hynny. At y dibenion hyn mae mangreoedd yn cynnwys cerbydau a ddefnyddir fel tacsis ac ar gyfer trafnidiaeth cyhoeddus.

Mae Rhan 4 yn gosod terfynau ar ymgynnull gyda phobl eraill. Mae’r rhain yn darparu (yn rheoliad 14) mai dim ond os oes ganddo esgus rhesymol dros wneud hynny (y mae enghreifftiau ohonynt wedi eu rhestru) y caiff person ymgynull dan do gyda rhywun ac eithrio aelod o’i aelwyd neu ei ofalwr, neu’r person y mae’n gofalu amdano. Mae’r un rheol yn berthnasol i ymgynnull yn yr awyr agored ac eithrio bod ymgynnull gydag aelodau un aelwyd arall yn cael ei ganiatáu hefyd. Mae rheoliad 15 yn darparu eithriad i’r rheol yn rheoliad 14 ar gyfer gweithgareddau yn yr awyr agored sydd wedi eu trefnu, nad ydynt yn cynnwys mwy na 30 o bobol. Mae rheoliad 16 yn darparu bod rhaid i berson sy’n gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol wneud hynny o’i gartref, os yw’n rhesymol ymarferol iddo wneud hynny.

Mae Rhan 5 yn ymwneud â gorfodi’r cyfyngiadau a’r gofynion. Mae rheoliad 17 yn gwneud darpariaeth ynghylch y rhai a all gymryd camau gorfodi, tra bo rheoliad 18 yn ymwneud â’r camau gweithredu eu hunain. Mae rheoliad 19 yn cynnwys pŵer i fynd i fangre. Mae rheoliad 20 yn darparu bod person sydd, heb esgus rhesymol, yn mynd yn groes i’r gofynion (rhestredig) yn y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd. Gellir cosbi’r drosedd honno drwy ddirwy ddiderfyn. Mae rheoliad 21 yn caniatáu i droseddau gael eu cosbi drwy hysbysiad cosb benodedig (y mae ei swm yn dyblu ar ail hysbysiad cosb person a phob un o’i hysbysiadau cosb a ddilyn, hyd at uchafswm o £1920) ac mae rheoliad 22 yn ymwneud ag erlyn troseddau o dan y Rheoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.