xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCau busnesau a mangreoedd

Cau bariau a bwytai dan do etc.LL+C

6.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir yn Atodlen 1 gau unrhyw ran o’i fangre sydd o dan do ac a ddefnyddir ar gyfer bwyta bwyd neu yfed diod.

(2Ond nid yw paragraff (1) yn atal darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall.

(3Ac mae paragraff (1) yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r angen i wneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a gwaith arall i sicrhau bod y fangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw paragraff (1) yn gymwys mwyach i’r busnes.

(4At ddibenion paragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 6 mewn grym ar 13.7.2020, gweler rhl. 1(4)

Cau busnesau a gwasanaethau eraillLL+C

7.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Atodlen 2 beidio â chynnal y busnes hwnnw neu ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.

(2Ond nid yw paragraff (1) yn atal y defnydd—

(a)o fangre a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir ym mharagraff 1, 2, 4, 5, 6 neu 12 o Atodlen 2 i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);

(b)o fangre at unrhyw ddiben y caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol ofyn amdano;

(c)o fangre ar gyfer hyfforddi athletwyr elît;

(d)o fangre a ddefnyddir fel amgueddfa neu oriel, neu at ddiben darparu gwasanaethau archif, ar gyfer darparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(3Ac mae paragraff (1) yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r angen i wneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a gwaith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw paragraff (1) yn gymwys mwyach i’r busnes neu’r gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 7 mewn grym ar 13.7.2020, gweler rhl. 1(4)

Cau llety gwyliauLL+C

F18.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 8 mewn grym ar 11.7.2020, gweler rhl. 1(3)(b)

Busnesau sy’n ffurfio rhan o fusnes mwyLL+C

9.  Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”), yn rhinwedd rheoliad 6(1) [F2neu 7(1)], beidio â chynnal busnes A, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y rheoliad 6(1) [F2neu 7(1)] os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 9 mewn grym ar 11.7.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(c)

I5Rhl. 9 mewn grym ar 13.7.2020 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(4)

Cau amlosgfeydd a chanolfannau cymunedolLL+C

10.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am amlosgfa sicrhau bod yr amlosgfa ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan baragraff (2).

(2Caniateir i’r amlosgfa fod yn agored i aelodau’r cyhoedd ar gyfer angladdau neu gladdu (a darlledu angladd neu gladdu boed dros y rhyngrwyd neu fel arall).

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.

(4Rhaid i berson sy’n gyfrifol am ganolfan gymunedol sicrhau bod y ganolfan gymunedol ar gau ac eithrio pan fo’n cael ei defnyddio i ddarparu—

(a)gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

(b)gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 10 mewn grym ar 13.7.2020, gweler rhl. 1(4)

Cau rhai llwybrau cyhoeddus a thir mynediadLL+C

11.—(1Pan fo paragraff (2) yn gymwys i lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol —

(a)cau’r llwybr cyhoeddus neu’r tir mynediad, a

(b)ei gadw ar gau tan yr adeg pan fydd yr awdurdod yn ystyried nad yw’r cau yn angenrheidiol mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint â’r coronafeirws yn ei ardal.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r llwybrau cyhoeddus a’r tir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol y mae’n ystyried —

(a)eu bod yn debygol o ddenu niferoedd mawr o bobl yn ymgynnull neu’n dod yn agos i’w gilydd, neu

(b)bod eu defnydd fel arall yn peri risg uchel i fynychder neu ledaeniad haint yn ei ardal â’r coronafeirws.

(3Pan fo llwybr cyhoeddus wedi ei gau o dan—

(a)rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020(1), neu

(b)rheoliad 9 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(2),

mae’r llwybr i’w drin fel pe bai wedi ei gau o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.

(4Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio llwybr cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn rhinwedd paragraff (1) oni bai ei fod wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod perthnasol.

(5Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cyhoeddi rhestr o lwybrau cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn ei ardal ar wefan;

(b)codi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd bod llwybr cyhoeddus neu dir mynediad ar gau.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn cynnwys rhannau o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad.

(7Yn y rheoliad hwn —

(a)ystyr “awdurdod perthnasol” yw —

(i)awdurdod lleol,

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru,

(iii)Cyfoeth Naturiol Cymru, neu

(iv)yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol;

(b)ystyr “llwybr cyhoeddus” yw llwybr troed, llwybr ceffylau, cilffordd, cilffordd gyfyngedig neu lwybr beiciau ac—

(i)mae i “llwybr troed”, “llwybr ceffylau” a “llwybr beiciau” yr un ystyr ag â roddir i “footpath”, “bridleway” a “cycle track” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(3);

(ii)ystyr “cilffordd” yw cilffordd sydd ar agor i bob traffig o fewn yr ystyr a roddir i “byway open to all traffic” gan adran 66(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(4);

(iii)mae i “cilffordd gyfyngedig” yr ystyr a roddir i “restricted byway” gan adran 48(4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(5);

(c)mae “tir mynediad” yn cynnwys tir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo yn rhinwedd ei berchnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag “access land” yn adran 1(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(6).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 11 mewn grym ar 13.7.2020, gweler rhl. 1(4)

(3)

1980 p.66. Diwygiwyd adran 329 gan adran 1 Deddf Llwybrau Beiciau 1984 (p. 38) a pharagraff 21 o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988 (p. 54)

(6)

2000 p. 37. Diwygiwyd adran 1(1) gan adran 302(2)(a) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23)