Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: RHAN 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/07/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

RHAN 3LL+CLleihau’r risg dod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd agored ac wrth weithio

Mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirwsLL+C

12.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am—

(a)mangre agored, neu

(b)gwaith a wneir mewn unrhyw fangre arall lle y mae person yn gweithio.

(2At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre, rhaid i’r person—

(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(i)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr);

(ii)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, fod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac sy’n cynnal hylendid megis—

(i)newid trefn y fangre gan gynnwys lleoliad y dodrefn a’r gweithfannau;

(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;

(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;

(iv)fel arall rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;

(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;

(vi)darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac

(c)darparu gwybodaeth i’r rhai sy’n dod i mewn neu’n gweithio yn y fangre ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “mangre agored” yw—

(a)mangre busnes neu wasanaeth a restrir yn Atodlen 4;

(b)addoldai;

(c)mynwentydd;

(d)mangre busnes a restrir yn Atodlen 1 nad yw’n ofynnol iddit gau yn unol â rheoliad 6;

(e)mangre busnes a restrir yn Atodlen 2 y caniateir iddi fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 7(2);

F1(f). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(g)amlosgfeydd y caniateir iddynt fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 10(2);

(h)canolfannau cymunedol y caniateir iddynt fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 10(4).

(4At ddibenion y rheoliad hwn mae “mangre” hefyd yn cynnwys cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd, rheilffyrdd, tramffordd, awyr neu fôr .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 12 mewn grym ar 11.7.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(d)

I2Rhl. 12 mewn grym ar 13.7.2020 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(4)

Canllawiau ar leihau dod i gysylltiad â’r coronafeirwsLL+C

13.—(1Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 12 roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.

(2O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(3Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 13 mewn grym ar 11.7.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(d)

I4Rhl. 13 mewn grym ar 13.7.2020 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(4)

Back to top

Options/Help