RHAN 3Lleihau’r risg dod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd agored ac wrth weithio
Mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws12
1
Mae paragraff (2) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am—
a
mangre agored, neu
b
gwaith a wneir mewn unrhyw fangre arall lle y mae person yn gweithio.
2
At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre, rhaid i’r person—
a
cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
i
y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr);
ii
pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, fod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
b
cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac sy’n cynnal hylendid megis—
i
newid trefn y fangre gan gynnwys lleoliad y dodrefn a’r gweithfannau;
ii
rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
iii
rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
iv
fel arall rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;
v
gosod rhwystrau neu sgriniau;
vi
darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
c
darparu gwybodaeth i’r rhai sy’n dod i mewn neu’n gweithio yn y fangre ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
3
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “mangre agored” yw—
a
mangre busnes neu wasanaeth a restrir yn Atodlen 4;
b
addoldai;
c
mynwentydd;
d
mangre busnes a restrir yn Atodlen 1 nad yw’n ofynnol iddit gau yn unol â rheoliad 6;
e
mangre busnes a restrir yn Atodlen 2 y caniateir iddi fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 7(2);
f
g
amlosgfeydd y caniateir iddynt fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 10(2);
h
canolfannau cymunedol y caniateir iddynt fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 10(4).
4
At ddibenion y rheoliad hwn mae “mangre” hefyd yn cynnwys cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd, rheilffyrdd, tramffordd, awyr neu fôr .
Canllawiau ar leihau dod i gysylltiad â’r coronafeirws13
1
Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 12 roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.
2
O ran Gweinidogion Cymru—
a
cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a
b
rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).
3
Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).