Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 5LL+CGorfodi

Swyddogion gorfodaethLL+C

17.—(1At ddibenion rheoliadau 18 i 21, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—

(a)cwnstabl,

(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,

(c)person wedi i ddynodi gan—

(i)Gweinidogion Cymeru,

(ii)awdurdod lleol,

(iii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu

(iv)Cyfoeth Naturiol Cymru,

(v)at ddibenion rheoliadau 18 i 21 (ond gweler paragraffau (2) a (3)), neu

(d)person wedi ei ddynodi o dan reoliad 10(11)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(1) fel person perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw) gan—

(i)Gweinidogion Cymru,

(ii)awdurdod lleol,

(iii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu

(iv)Cyfoeth Naturiol Cymru,

(v)(ond gweler paragraffau (2) a (3)).

(2Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond mewn perthynas â thramgwydd (neu dramgwydd honedig) yn groes i ofyniad yn rheoliad 6(1), 7(1),F1... 10(1) neu (4), 11(4) neu 12(2).

(3Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod Parc Cenedlaethol neu Gyfoeth Naturiol Cymru arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond mewn perthynas â thramgwydd (neu dramgwydd honedig) yn groes i’r gofyniad yn rheoliad 11(4).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 17 mewn grym ar 11.7.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(e)

I2Rhl. 17 mewn grym ar 13.7.2020 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(4)

Camau gorfodiLL+C

18.—(1Caiff swyddog gorfodaeth roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person yn torri gofyniad yn rheoliad 6(1), 7(1), F2... 10(1) neu (4) neu 12(2).

(2Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y rhoddir ef iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.

(3Os oes gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 11(4), caiff y swyddog gorfodaeth dynnu P o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 11(7)) sydd ar gau (neu sy’n cael ei gau) yn rhinwedd rheoliad 11(1), a chaiff ddefnyddio grym rhesymol, os bydd angen, i wneud hynny.

(4Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 14(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)cyfarwyddo unrhyw berson yn y cynulliad i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;

(c)mynd ag unrhyw berson yn y cynulliad i’r man lle y mae’n byw.

(5Caiff swyddog gorfodaeth—

(a)wrth arfer y pŵer ym mharagraff (4), gyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;

(b)defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer ym mharagraff (4)(a) neu (c).

(6Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) mewn cynulliad yn groes i reoliad 14(1) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

(7At ddibenion paragraff (6), mae gan U gyfrifoldeb am blentyn os oes gan U—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant am y plentyn.

(8Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gweithredu eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y rheoliad hwn neu reoliad 19.

(9Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer dan y rheoliad hwn neu reoliad 19 os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

(10Yn y rheoliad hwn a rheoliadau 19 ac 20, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 18 mewn grym ar 11.7.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(e)

I4Rhl. 18 mewn grym ar 13.7.2020 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(4)

Pŵer mynd i mewnLL+C

19.—(1Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre—

(a)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael, neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a

(b)os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.

(2Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—

(a)defnyddio grym rhesymol i fynd i’r fangre os yw’n angenrheidiol;

(b)cymryd unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.

(3Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—

(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu’r diben yr arferir y pŵer;

(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, rhaid i’r swyddog adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 19 mewn grym ar 11.7.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(e)

I6Rhl. 19 mewn grym ar 13.7.2020 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(4)

Troseddau a chosbauLL+C

20.—(1Mae person sydd—

(a)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 6(1), 7(1), F3... 10(1) neu (4), 11(4), [F4neu 12(2)], neu

(b)yn torri gofyniad yn rheoliad 14(1),

yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(3Mae person sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn torri cyfarwyddyd a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 18(4), (5)(a) neu (6), neu

(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 18(1),

yn cyflawni trosedd.

(4Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.

(5Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(2) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel petai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—

(a)i gynnal iechyd y cyhoedd;

(b)i gynnal trefn gyhoeddus.

(6Os profir bod trosedd o dan baragraff 20(1) wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff hwnnw, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(7Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(8Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.

(9Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.

(10Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(3) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(4) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys i gorff corfforedig.

(11Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth.

(12Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 20 mewn grym ar 11.7.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(e)

I8Rhl. 20 mewn grym ar 13.7.2020 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(4)

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

21.—(1Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—

(a)ei fod wedi cyflawni trosedd dan y Rheoliadau hyn, a

(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.

(2Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)awdurdod lleol, neu

(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,

fel y caiff yr hysbysiad ei bennu.

(3Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).

(4Caiff person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(5) ei drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(5Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yr ardal yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni ynddi.

(6Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod 28 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad dyroddi’r hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(7Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu’r drosedd;

(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

(c)pennu swm y gosb benodedig;

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(8Rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (7)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (9) ac (10)).

(9Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.

(10Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn—

(a)nid yw paragraff (9) yn gymwys, a

(b)rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—

(i)yn £120 yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(ii)yn £240 yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(iii)yn £480 yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(iv)yn £960 yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(v)yn £1920 yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig olynol.

(11Wrth gyfrifo nifer yr hysbysiadau cosb penodedig y mae person wedi eu cael, mae hysbysiadau cosb penodedig a ddyroddir i’r person hwnnw o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(6) i’w cymryd i ystyriaeth.

(12Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (7)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (7)(d) i’r cyfeiriad a nodir.

(13Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (12), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(14Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person sydd â chyfrifoldeb am faterion ariannol—

(i)yr awdurdod lleol, neu

(ii)y person a ddynodir o dan baragraff (2)(b),

a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a

(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y tystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

(15Pan ddyroddir cosb benodedig mewn perthynas â’r drosedd honedig o dorri’r gofyniad yn rheoliad 11(4), mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “awdurdod lleol” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 21 mewn grym ar 11.7.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(e)

I10Rhl. 21 mewn grym ar 13.7.2020 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(4)

ErlynLL+C

22.—(1Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.

(2Caiff person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 14 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(7) ei drin fel pe bai wedi ei ddynodi o dan y rheoliad hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 22 mewn grym ar 11.7.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(e)

I12Rhl. 22 mewn grym ar 13.7.2020 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(4)

(2)

1984 p. 60. Amnewidiwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p.15).