Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

Rheoliad 6

ATODLEN 1LL+CMangreoedd sy’n gwerthu bwyd a diod i’w bwyta ac i’w hyfed yn y fangre

1.—(1Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir yn [F1Atodlen 4].LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 13.7.2020, gweler rhl. 1(4)

2.—(1Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2)), a chaffis ym mangreoedd busnesau a restrir yn [F2Atodlen 4], ond heb gynnwys—LL+C

(a)caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal neu ysgol;

(b)ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;

(c)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i’r digartref.

(2Caiff ffreuturau yn y gweithle aros ar agor—

(a)pan na fo dewis arall ymarferol i staff yn y gweithle hwnnw i gael bwyd; a

(b)pan gymerir pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng unrhyw berson sy’n defnyddio’r ffreutur.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 13.7.2020, gweler rhl. 1(4)

3.  Bariau, gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau neu ym mangreoedd busnesau a restrir yn [F3Atodlen 4].LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 13.7.2020, gweler rhl. 1(4)

4.  Tafarndai.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 13.7.2020, gweler rhl. 1(4)