ATODLEN 1Mangreoedd sy’n gwerthu bwyd a diod i’w bwyta ac i’w hyfed yn y fangre

Rheoliad 6

I11

1

Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir yn F1Atodlen 4.

I22

1

Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2)), a chaffis ym mangreoedd busnesau a restrir yn F2Atodlen 4, ond heb gynnwys—

a

caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal neu ysgol;

b

ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;

c

gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i’r digartref.

2

Caiff ffreuturau yn y gweithle aros ar agor—

a

pan na fo dewis arall ymarferol i staff yn y gweithle hwnnw i gael bwyd; a

b

pan gymerir pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng unrhyw berson sy’n defnyddio’r ffreutur.

I33

Bariau, gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau neu ym mangreoedd busnesau a restrir yn F3Atodlen 4.

I44

Tafarndai.