Rheoliad 12
ATODLEN 4LL+CBusnesau a gwasanaethau a gaiff agor yn amodol ar fesurau diogelu
1. Unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu hurio mewn siop.LL+C
2. Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.LL+C
3. Gorsafoedd petrol.LL+C
4. Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.LL+C
5. Busnesau tacsi neu logi cerbydau.LL+C
6. Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.LL+C
7. Swyddfeydd post.LL+C
8. Trefnwyr angladdau.LL+C
9. Golchdai a siopau glanhau dillad.LL+C
10. Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.LL+C
11. Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.LL+C
12. Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.LL+C
13. Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.LL+C
14. Meysydd parcio.LL+C
15. Toiledau cyhoeddus.LL+C
16. Llyfrgelloedd.LL+C
17. Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.LL+C
18. Delwriaethau ceir.LL+C
19. Marchnadoedd awyr agored.LL+C
20. Siopau betio.LL+C
21. Canolfannau siopa ac arcedau siopa o dan do.LL+C
22. Sinemâu awyr agored.LL+C
23. Salonau gwallt a barbwyr.LL+C
24. Atyniadau i ymwelwyr ....LL+C
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
[25. “Ffeiriau pleser.LL+C
26. Meysydd chwarae a champfeydd awyr agored.]LL+C
[27.—(1) Safleoedd gwyliau.LL+C
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—
(a)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu
(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.
(3) At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—
(a)y person sy’n berchennog ar y safle, neu
(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn gymwys iddo.
28. Safleoedd gwersylla.LL+C
29. Gwestai a llety gwely a brecwast.LL+C
30. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).]LL+C