ATODLEN 1Mangreoedd sy’n gwerthu bwyd a diod i’w bwyta ac i’w hyfed yn y fangre

Rheoliad 6

I31

1

Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir yn F4Atodlen 4.

I42

1

Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2)), a chaffis ym mangreoedd busnesau a restrir yn F5Atodlen 4, ond heb gynnwys—

a

caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal neu ysgol;

b

ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;

c

gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i’r digartref.

2

Caiff ffreuturau yn y gweithle aros ar agor—

a

pan na fo dewis arall ymarferol i staff yn y gweithle hwnnw i gael bwyd; a

b

pan gymerir pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng unrhyw berson sy’n defnyddio’r ffreutur.

I53

Bariau, gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau neu ym mangreoedd busnesau a restrir yn F6Atodlen 4.

I64

Tafarndai.

ATODLEN 2Y busnesau a’r gwasanaethau y mae’n ofynnol eu cau

Rheoliad 7

I71

Sinemâu dan do.

I82

Theatrau.

I93

Clybiau nos.

I104

Neuaddau bingo.

I115

Neuaddau cyngerdd.

I126

Casinos.

I137

Parlyrau tylino.

I148

Salonau ewinedd a harddwch.

I159

Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo.

I1610

Canolfannau sglefrio.

I1711

Pyllau nofio.

I1812

Stiwdios ffitrwydd dan do, campfeydd, sbaon, neu ganolfannau neu gyfleusterau hamdden dan do eraill.

I1913

Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae dan do.

I2014

Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.

F7I2115

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2I116

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3I217

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I2218

Tai arwerthiant (ac eithrio arwerthiannau da byw).

F10ATODLEN 3Llety gwyliau

Rheoliad 8

Annotations:

F101

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F102

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F103

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F104

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

ATODLEN 4Busnesau a gwasanaethau a gaiff agor yn amodol ar fesurau diogelu

Rheoliad 12

I231

Unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu hurio mewn siop.

I242

Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.

I253

Gorsafoedd petrol.

I264

Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.

I275

Busnesau tacsi neu logi cerbydau.

I286

Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.

I297

Swyddfeydd post.

I308

Trefnwyr angladdau.

I319

Golchdai a siopau glanhau dillad.

I3210

Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.

I3311

Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.

I3412

Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.

I3513

Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.

I3614

Meysydd parcio.

I3715

Toiledau cyhoeddus.

I3816

Llyfrgelloedd.

I3917

Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.

I4018

Delwriaethau ceir.

I4119

Marchnadoedd awyr agored.

I4220

Siopau betio.

I4321

Canolfannau siopa ac arcedau siopa o dan do.

I4422

Sinemâu awyr agored.

I4523

Salonau gwallt a barbwyr.

I4624

Atyniadau i ymwelwyr F8....

F125

“Ffeiriau pleser.

26

Meysydd chwarae a champfeydd awyr agored.

F927

1

Safleoedd gwyliau.

2

Yn y paragraff hwn, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

a

wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

b

yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

3

At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

a

y person sy’n berchennog ar y safle, neu

b

person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn gymwys iddo.

28

Safleoedd gwersylla.

29

Gwestai a llety gwely a brecwast.

30

Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).