RHAN 2Cau busnesau a mangreoedd

Cau amlosgfeydd a chanolfannau cymunedol10

1

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am amlosgfa sicrhau bod yr amlosgfa ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan baragraff (2).

2

Caniateir i’r amlosgfa fod yn agored i aelodau’r cyhoedd ar gyfer angladdau neu gladdu (a darlledu angladd neu gladdu boed dros y rhyngrwyd neu fel arall).

3

Nid yw paragraff (2) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.

4

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am ganolfan gymunedol sicrhau bod y ganolfan gymunedol ar gau ac eithrio pan fo’n cael ei defnyddio i ddarparu—

a

gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

b

gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.