RHAN 4Ymgynnull gyda phobl eraill
Cyfyngiadau ar gynulliadauI114
1
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—
a
ymgynnull yn yr awyr agored gydag unrhyw berson arall oni bai am—
i
aelodau o’i aelwyd neu aelodau o ddim mwy nag un aelwyd arall,
ii
gofalwr iddo, neu
iii
person y mae’n darparu gofal iddo;
b
ymgynnull mewn mangre o dan do gydag unrhyw berson arall oni bai am—
i
aelodau o’i aelwyd,
ii
gofalwr iddo, neu
iii
person y mae’n darparu gofal iddo.
2
Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—
a
cael cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 o Atodlen 4 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
b
darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200624, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
c
darparu neu gael cynhorthwy brys;
d
rhoi gwaed;
e
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
f
pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi neu gystadlu;
g
mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
i
fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
ii
os caiff ei wahodd i fynychu, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
h
mynd i angladd—
i
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
ii
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
i
bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
j
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol neu gael y gwasanaethau hynny, gan gynnwys —
i
gofal plant neu wasanaethau addysgol;
ii
gwasanaethau cymdeithasol;
iii
gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;
iv
gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr (megis dioddefwyr trosedd neu drais domestig);
k
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
l
symud cartref;
m
paratoi eiddo preswyl i bersonau symud i mewn;
n
ymgymryd â’r gweithgareddau a ganlyn mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl nad yw wedi ei feddiannu—
i
ymweld ag asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr neu gartrefi arddangos;
ii
gweld eiddo o’r fath;
o
osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.
3
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref.
4
At ddibenion paragraff (2)(n), nid yw eiddo wedi ei feddiannu os nad yw unrhyw berson yn meddiannu’r eiddo fel preswylfa.