Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)mae “claddu” yn cynnwys rhoi lludw person marw yn y ddaear;
(b)ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan—
(i)bo hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1),
(ii)bo’r gofal yn rhan o’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu
(iii)bo’r gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(2);
(c)mae “mynwent” yn cynnwys claddfa ac unrhyw fan arall sydd yn cael ei ddefnyddio i gladdu’r meirw;
(d)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
(e)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru;
(f)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(g)mae i “mangre agored” yr ystyr a roddir gan reoliad 12(3);
(h)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ysytr a roddir yn Neddf Plant 1989(3);
(i)mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;
(j)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;
(k)mae “person hyglwyf” yn cynnwys—
(i)unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;
(ii)unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;
(iii)unrhyw berson sy’n feichiog;
(iv)unrhyw blentyn;
(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(4).
(2) At ddibenion y diffiniad o “athletwr elît” ym mharagraff (1)—
(a)nid yw unigolyn wedi ei ddynodi gan Gyngor Chwaraeon Cymru onid yw’r unigolyn wedi ei enwebu am ddynodiad gan gorff camp perthnasol a bod y Cyngor wedi derbyn yr enwebiad, a
(b)ystyr “corff camp perthnasol” yw corff llywodraethu cenedlaethol camp a gaiff enwebu athletwyr i gynrychioli—
(i)Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn y Gemau Olympaidd neu’r Gemau Paralympaidd, neu
(ii)Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd, a
(b)mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007(5).
(4) Os yw dwy aelwyd yn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd (estynedig) at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio ym mharagraffau (5) a (7)) at “aelwyd” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y ddwy aelwyd.
(5) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd rhaid i bob oedolyn yn y ddwy aelwyd gytuno.
(6) Ond—
(a)dim ond gydag un aelwyd arall y caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd, a
(b)os yw’r ddwy aelwyd yn peidio â chytuno i gael eu trin fel un aelwyd, ni chaiff y naill aelwyd na’r llall gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd o dan baragraff (4) gydag unrhyw aelwyd arall.
(7) Os yw dwy aelwyd wedi cytuno i gael eu trin fel un aelwyd (estynedig) at ddibenion Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 maent i’w trin fel pe baent hefyd wedi cytuno i hynny at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 11.7.2020, gweler rhl. 1(3)(a)
1989 p. 41. Gweler Rhan 1 y Ddeddf, lle y gwnaed amryw ddiwygiadau, gan gynnwys gan y Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (p. 22) ac O.S. 2019/1458.
2006 c. 47, fel a ddiwygiwyd gan adran 65 o Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).