RHAN 2Cau busnesau a mangreoedd

Cau llety gwyliauI18

1

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir yn Atodlen 3 beidio â chynnal y busnes hwnnw.

2

Ond nid yw paragraff (1) yn atal y defnydd o fangre—

a

ar gyfer darparu llety hunangynhwysol,

b

ar gyfer darparu lleiniau i garafannau hunangynhwysol mewn safleoedd gwyliau neu feysydd pebyll,

c

at ddibenion busnes a restrir yn Atodlen 1 (ond gweler rheoliad 6), neu

d

at unrhyw ddiben y caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol ofyn amdano.

3

Ac mae paragraff (1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes yn ddarostyngedig i’r angen—

a

i ddarparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—

i

nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

ii

sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

b

i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post;

c

i wneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a gwaith arall i sicrhau bod mangre’n addas i’w defnyddio pan nad yw paragraff (1) yn gymwys mwyach i’r busnes.

4

At ddibenion paragraff (2)—

a

mae llety yn hunangynhwysol—

i

os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd,

ii

os yw toiledau a chyfleusterau ymolchi wedi eu darparu mewn cysylltiad â’r llety nad ydynt yn cael eu rhannu ag unrhyw un sy’n aelod o aelwyd arall, a

iii

os yw cyfleusterau ar gyfer paratoi bwyd neu ddiod, neu fwyta bwyd neu yfed diod wed eu darparu mewn cysylltiad â’r llety ac nid ydynt yn cael eu rhannu ag unrhyw un sy’n aelod o aelwyd arall;

b

mae carafán yn hunangynhwysol—

i

os yw’r personau sy’n meddiannu’r garafán yn aelodau o’r un aelwyd,

ii

os yw’r garafán yn cynnwys ei thoiled a’i chyfleusterau ymolchi ei hun, ac

iii

os nad yw’r personau sy’n meddiannu’r garafán yn rhannu cyfleusterau ar gyfer paratoi bwyd neu ddiod, neu fwyta bwyd neu yfed diod ar y safle gwyliau neu’r maes pebyll gydag unrhyw un sy’n aelod o aelwyd arall;

c

mae i “carafán” yr un ystyr â “caravan” yn Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 196016.

5

Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 3, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

a

wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

b

yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

6

At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol —

a

y person sy’n berchennog ar y safle, neu

b

person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 201317 yn gymwys iddo.