xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
13 Gorffennaf 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
15 Gorffennaf 2020
Yn dod i rym
7 Awst 2020
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3) a (5), 408(1), 537(1), (4) a (7), 537A(1), (2) a (3) a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996(1), adrannau 19(1) a 54(3) o Ddeddf Addysg 1997(2) ac adrannau 63(1) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(4), a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(5), ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Awst 2020.
2.—(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 1 mewnosoder—
1A. Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 ac 8(b) o Atodlen 2 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020(7) gael ei chynnwys mewn unrhyw adroddiad llywodraethwyr.”
(3) Mae paragraff 10 o Atodlen 2 wedi ei ddirymu.
3. Ar ôl rheoliad 1 o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011(8) mewnosoder—
1A. Mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar bennaeth gan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2019-2020(9), ac eithrio’r ddyletswydd yn rheoliad 5(1), i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os yw’r pennaeth wedi gwneud ymdrechion rhesymol i gyflawni’r ddyletswydd.”
4. Ar ôl rheoliad 1 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011(10) mewnosoder—
1A. Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020(11) gael ei chynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol.”
5. Mae’r canlynol wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011(12),
(b)rheoliad 13 o Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016(13),
(c)rheoliad 6 o Reoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018(14), a
(d)Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019(15).
6.—(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 1 mewnosoder—
1A. Ni chaiff yr wybodaeth a ddarperir yn unol â rheoliadau 5, 6 ac 8 gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020(17).”
(3) Yn rheoliadau 4, 5 a 6, ar ôl “bob blwyddyn” mewnosoder “ysgol”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o reoliadau er mwyn llacio nifer o ofynion ar ysgolion o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.
Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol”) yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei chyhoeddi mewn adroddiad blynyddol. Felly, mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd yn y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol ac effaith hynny yw nad yw’n ofynnol cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020 mewn unrhyw adroddiad blynyddol llywodraethwyr—
(a)paragraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (y crynodeb o berfformiad yr ysgol uwchradd),
(b)paragraff 7 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (nifer absenoldebau awdurdodedig disgyblion a nifer absenoldebau anawdurdodedig disgyblion), ac
(c)paragraff 8(b) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (gwybodaeth bellach sy’n ymwneud ag absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig disgyblion).
Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adrodd”) yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae’n ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhiant ofyn i’r pennaeth amdani. Nid yw pob plentyn yn mynychu’r ysgol ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon yn gweithio ac yn astudio o bell. Mae hyn yn peri heriau i athrawon mewn cysylltiad â darparu’r adroddiad i rieni a disgyblion sy’n oedolion. Felly, mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth newydd yn y Rheoliadau Adrodd ac effaith hynny yw diwygio’r rhwymedigaethau ar y penaethiaid fel eu bod yn rhwymedig i wneud ymdrechion rhesymol i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.
Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion”) yn rhagnodi’r wybodaeth ysgol y mae rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion ei chyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Nid yw pob plentyn yn mynychu’r ysgol ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon yn gweithio ac yn astudio o bell. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion. Ystyrir yr effeithir yn benodol ar y data ynghylch absenoldebau disgyblion ac felly ni ddylid eu cyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Felly, mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaeth ar gorff llywodraethu ysgol i gynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol y data a nodir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny (data sy’n ymwneud ag absenoldebau disgyblion) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2019-2020.
Mae Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Targedau Ysgol”) yn nodi’r targedau perfformiad ysgol y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol eu gosod. Gosodir y targedau am gyfnod o 3 blynedd ac mae’r targedau diwygiedig yn darparu’r sail ar gyfer targedau am y flwyddyn ganlynol. Bydd y ffaith nad yw llawer o ddisgyblion a phlant yn mynychu ysgolion a’u bod yn hytrach yn gweithio o bell yn effeithio’n andwyol y data a fydd yn sail i’r targedau hynny. Mae hyn yn peri problem benodol o ran gosod targedau am flwyddyn ysgol a sut y bydd hynny yn gweithio o ystyried y cylch 3 blynedd o dargedau ac adolygu’r targedau hynny. Felly, mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu’r Rheoliadau Targedau Ysgol. Disgwylir y caiff set newydd o’r Rheoliadau hyn ei gwneud ar ôl i’r trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd gael eu cyflwyno o 2022 ymlaen.
Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion”) yn rheoleiddio trosglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad addysgol disgyblion o benaethiaid i gyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Fel y’i nodir uchod, nid yw pob plentyn yn mynychu’r ysgol ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon yn gweithio ac yn astudio o bell. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion. Ni fydd llawer o ysgolion wedi cwblhau asesiadau’r cyfnod sylfaen a’r cyfnodau allweddol ac ni fydd Gweinidogion Cymru, drwy awdurdodau lleol, yn casglu’r data hyn am y flwyddyn ysgol 2019-2020. Felly, mae rheoliad 6(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaethau ar ysgol i gyflenwi’r wybodaeth ragnodedig sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020 i awdurdodau lleol, ac ar awdurdodau lleol i gyflenwi’r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1996 p. 56. Diwygiwyd adran 29(3) gan Atodlen 30 a pharagraff 67 o Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31). Diwygiwyd pennawd adran 29 ac is-adrannau (1), (3) a (5) gan O.S. 2010/1158. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 408(1) gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), paragraff 106(a) o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraffau 1 a 57(1) a (2) o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), paragraff 46(1) a (2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), paragraffau 9 ac 11(1) a (2) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), paragraffau 5 a 7 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21), paragraff 1(1) a (2)(a) o Atodlen 4 i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5) a chan O.S. 2010/1158. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 537(1) gan baragraff 152(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, gan baragraff 9(1) a (15) o Atodlen 13 i Ddeddf Addysg 2011 a chan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd is-adran (4) gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997. Diwygiwyd is-adran (7) gan baragraff 152(b) o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, gan baragraffau 1 a 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, gan baragraff 6(1) a (5) o Ran 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 2002 a chan O.S. 2010/1158. Mewnosodwyd adran 537A gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997, fe’i hamnewidiwyd gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 2010/1158 a chan O.S. 2012/976. Diwygiwyd adran 569(4) gan adran 8(1) a (5) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.
1997 p. 44. Amnewidiwyd is-adran (3) o adran 19 o Ddeddf Addysg 1997 gan baragraff 213 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Diddymwyd adran 19 o ran Lloegr gan adran 66(1) ac mae diwygiadau eraill wedi eu gwneud i is-adran (1) gan adran 66(1) a (2) o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20). Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 56(1) o Ddeddf Addysg 1997.
1998 p. 31. Diwygiwyd is-adrannau (1), (3) a (4) o adran 63 gan adran 53(1) i (4) a Rhan 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002, a mewnosodwyd is-adran (3A) gan adran 53(1) a (3) o Ddeddf Addysg 2002. Diwygiwyd is-adran (7) gan baragraff 3(1) a (4) o Atodlen 17 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40). Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
2002 p. 32. Diwygiwyd is-adrannau (1), (2) a (3) o adran 30 gan adran 103(1)(a) a (b) o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18). Diwygiwyd is-adran (7) gan adran 21(1)(3)(c)(i) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 30 o Ddeddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 212(1) o Ddeddf Addysg 2002.
O.S. 2011/1939 (Cy. 207), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2013/1561 (Cy. 142), O.S. 2014/2677 (Cy. 265) ac O.S. 2018/766 (Cy. 153).
Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.
O.S. 2011/1943 (Cy. 210), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2014/1998 (Cy. 199), O.S. 2016/236 (Cy. 88), O.S. 2016/837 (Cy. 211) ac O.S. 2018/766 (Cy. 153).
Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.
O.S. 2011/1944 (Cy. 211), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2016/211 (Cy. 84) ac O.S. 2018/766 (Cy. 153).
Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.
O.S. 2011/1963 (Cy. 217), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2016/236 (Cy. 88) ac O.S. 2016/837 (Cy. 211).
Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.