Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

2.—(1Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 1 mewnosoder—

Datgymhwyso gofynion penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020

1A.  Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 ac 8(b) o Atodlen 2 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020(2) gael ei chynnwys mewn unrhyw adroddiad llywodraethwyr.

(3Mae paragraff 10 o Atodlen 2 wedi ei ddirymu.

(2)

Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.