Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011
2.—(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 1 mewnosoder—
“Datgymhwyso gofynion penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020
1A. Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 ac 8(b) o Atodlen 2 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020(2) gael ei chynnwys mewn unrhyw adroddiad llywodraethwyr.”
(3) Mae paragraff 10 o Atodlen 2 wedi ei ddirymu.
(1)
O.S. 2011/1939 (Cy. 207), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2013/1561 (Cy. 142), O.S. 2014/2677 (Cy. 265) ac O.S. 2018/766 (Cy. 153).
(2)
Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.