Search Legislation

Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 729 (Cy. 164)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

13 Gorffennaf 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Gorffennaf 2020

Yn dod i rym

7 Awst 2020

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3) a (5), 408(1), 537(1), (4) a (7), 537A(1), (2) a (3) a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996(1), adrannau 19(1) a 54(3) o Ddeddf Addysg 1997(2) ac adrannau 63(1) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(4), a thrwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(5), ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Awst 2020.

Diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

2.—(1Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 1 mewnosoder—

Datgymhwyso gofynion penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020

1A.  Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 ac 8(b) o Atodlen 2 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020(7) gael ei chynnwys mewn unrhyw adroddiad llywodraethwyr.

(3Mae paragraff 10 o Atodlen 2 wedi ei ddirymu.

Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011

3.  Ar ôl rheoliad 1 o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011(8) mewnosoder—

Addasu dyletswyddau ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020

1A.  Mae unrhyw ddyletswydd a osodir ar bennaeth gan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2019-2020(9), ac eithrio’r ddyletswydd yn rheoliad 5(1), i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os yw’r pennaeth wedi gwneud ymdrechion rhesymol i gyflawni’r ddyletswydd.

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011

4.  Ar ôl rheoliad 1 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011(10) mewnosoder—

Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020

1A.  Ni chaniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 ac sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020(11) gael ei chynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol.

Dirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011

5.  Mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011(12),

(b)rheoliad 13 o Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016(13),

(c)rheoliad 6 o Reoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018(14), a

(d)Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019(15).

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011

6.—(1Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 1 mewnosoder—

Datgymhwyso dyletswyddau penodol ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020

1A.  Ni chaiff yr wybodaeth a ddarperir yn unol â rheoliadau 5, 6 ac 8 gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020(17).

(3Yn rheoliadau 4, 5 a 6, ar ôl “bob blwyddyn” mewnosoder “ysgol”.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

13 Gorffennaf 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o reoliadau er mwyn llacio nifer o ofynion ar ysgolion o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol”) yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei chyhoeddi mewn adroddiad blynyddol. Felly, mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd yn y Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol ac effaith hynny yw nad yw’n ofynnol cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-2020 mewn unrhyw adroddiad blynyddol llywodraethwyr—

(a)paragraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (y crynodeb o berfformiad yr ysgol uwchradd),

(b)paragraff 7 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (nifer absenoldebau awdurdodedig disgyblion a nifer absenoldebau anawdurdodedig disgyblion), ac

(c)paragraff 8(b) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol (gwybodaeth bellach sy’n ymwneud ag absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig disgyblion).

Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adrodd”) yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae’n ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhiant ofyn i’r pennaeth amdani. Nid yw pob plentyn yn mynychu’r ysgol ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon yn gweithio ac yn astudio o bell. Mae hyn yn peri heriau i athrawon mewn cysylltiad â darparu’r adroddiad i rieni a disgyblion sy’n oedolion. Felly, mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth newydd yn y Rheoliadau Adrodd ac effaith hynny yw diwygio’r rhwymedigaethau ar y penaethiaid fel eu bod yn rhwymedig i wneud ymdrechion rhesymol i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion”) yn rhagnodi’r wybodaeth ysgol y mae rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion ei chyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Nid yw pob plentyn yn mynychu’r ysgol ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon yn gweithio ac yn astudio o bell. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion. Ystyrir yr effeithir yn benodol ar y data ynghylch absenoldebau disgyblion ac felly ni ddylid eu cyhoeddi mewn prosbectws ysgol. Felly, mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaeth ar gorff llywodraethu ysgol i gynnwys mewn unrhyw brosbectws ysgol y data a nodir ym mharagraff 30 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny (data sy’n ymwneud ag absenoldebau disgyblion) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ysgol 2019-2020.

Mae Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Targedau Ysgol”) yn nodi’r targedau perfformiad ysgol y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol eu gosod. Gosodir y targedau am gyfnod o 3 blynedd ac mae’r targedau diwygiedig yn darparu’r sail ar gyfer targedau am y flwyddyn ganlynol. Bydd y ffaith nad yw llawer o ddisgyblion a phlant yn mynychu ysgolion a’u bod yn hytrach yn gweithio o bell yn effeithio’n andwyol y data a fydd yn sail i’r targedau hynny. Mae hyn yn peri problem benodol o ran gosod targedau am flwyddyn ysgol a sut y bydd hynny yn gweithio o ystyried y cylch 3 blynedd o dargedau ac adolygu’r targedau hynny. Felly, mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu’r Rheoliadau Targedau Ysgol. Disgwylir y caiff set newydd o’r Rheoliadau hyn ei gwneud ar ôl i’r trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd gael eu cyflwyno o 2022 ymlaen.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion”) yn rheoleiddio trosglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad addysgol disgyblion o benaethiaid i gyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Fel y’i nodir uchod, nid yw pob plentyn yn mynychu’r ysgol ac mae llawer o ddisgyblion ac athrawon yn gweithio ac yn astudio o bell. Mae’n debygol y bydd hynny yn cael effaith negyddol ar ansawdd rhywfaint o’r data a reoleiddir gan y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion. Ni fydd llawer o ysgolion wedi cwblhau asesiadau’r cyfnod sylfaen a’r cyfnodau allweddol ac ni fydd Gweinidogion Cymru, drwy awdurdodau lleol, yn casglu’r data hyn am y flwyddyn ysgol 2019-2020. Felly, mae rheoliad 6(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod darpariaeth yn y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion ac effaith hynny yw datgymhwyso’r rhwymedigaethau ar ysgol i gyflenwi’r wybodaeth ragnodedig sy’n ymwneud â’r flwyddyn ysgol 2019-2020 i awdurdodau lleol, ac ar awdurdodau lleol i gyflenwi’r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1996 p. 56. Diwygiwyd adran 29(3) gan Atodlen 30 a pharagraff 67 o Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31). Diwygiwyd pennawd adran 29 ac is-adrannau (1), (3) a (5) gan O.S. 2010/1158. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 408(1) gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), paragraff 106(a) o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraffau 1 a 57(1) a (2) o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), paragraff 46(1) a (2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), paragraffau 9 ac 11(1) a (2) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), paragraffau 5 a 7 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21), paragraff 1(1) a (2)(a) o Atodlen 4 i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5) a chan O.S. 2010/1158. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 537(1) gan baragraff 152(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, gan baragraff 9(1) a (15) o Atodlen 13 i Ddeddf Addysg 2011 a chan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd is-adran (4) gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997. Diwygiwyd is-adran (7) gan baragraff 152(b) o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, gan baragraffau 1 a 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, gan baragraff 6(1) a (5) o Ran 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 2002 a chan O.S. 2010/1158. Mewnosodwyd adran 537A gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997, fe’i hamnewidiwyd gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 2010/1158 a chan O.S. 2012/976. Diwygiwyd adran 569(4) gan adran 8(1) a (5) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.

(2)

1997 p. 44. Amnewidiwyd is-adran (3) o adran 19 o Ddeddf Addysg 1997 gan baragraff 213 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Diddymwyd adran 19 o ran Lloegr gan adran 66(1) ac mae diwygiadau eraill wedi eu gwneud i is-adran (1) gan adran 66(1) a (2) o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20). Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 56(1) o Ddeddf Addysg 1997.

(3)

1998 p. 31. Diwygiwyd is-adrannau (1), (3) a (4) o adran 63 gan adran 53(1) i (4) a Rhan 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002, a mewnosodwyd is-adran (3A) gan adran 53(1) a (3) o Ddeddf Addysg 2002. Diwygiwyd is-adran (7) gan baragraff 3(1) a (4) o Atodlen 17 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40). Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(4)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(5)

2002 p. 32. Diwygiwyd is-adrannau (1), (2) a (3) o adran 30 gan adran 103(1)(a) a (b) o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18). Diwygiwyd is-adran (7) gan adran 21(1)(3)(c)(i) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 30 o Ddeddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations” gweler adran 212(1) o Ddeddf Addysg 2002.

(7)

Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.

(9)

Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.

(11)

Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.

(17)

Am y diffiniad o “school year” gweler adran 579 o Ddeddf Addysg 1996. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources