Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

4.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2—

(a)cyn Rhan 1 mewnosoder—

Rhan A1Rhagymadrodd

Dehongli

A1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “pla cwarantin parth gwarchodedig” (“protected zone quarantine pest”) yw pla o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 32(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

ystyr “pla cwarantin yr Undeb” (“Union quarantine pest”) yw pla o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 4 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

ystyr “PRHG” (“RNQP”) yw pla a reoleiddir gan yr Undeb heb gwarantin o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 36 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau diogelu rhag plâu planhigion.;;

(b)yn lle paragraff 15(4) rhodder—

(4) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.

(5) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.;

(c)ym mharagraffau 28 a 42, yn lle is-baragraff (3) ym mhob achos rhodder—

(3) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.

(4) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.;

(d)yn lle paragraff 50(4) rhodder—

(4) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.

(4A) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.

(1)

O.S. 2012/245 (Cy. 39). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Mae O.S. 2012/245 (Cy. 39) wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/368 (Cy. 90).