Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012
4.—(1) Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2—
(a)cyn Rhan 1 mewnosoder—
“Rhan A1Rhagymadrodd
Dehongli
A1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “pla cwarantin parth gwarchodedig” (“protected zone quarantine pest”) yw pla o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 32(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;
ystyr “pla cwarantin yr Undeb” (“Union quarantine pest”) yw pla o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 4 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;
ystyr “PRHG” (“RNQP”) yw pla a reoleiddir gan yr Undeb heb gwarantin o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 36 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;
ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau diogelu rhag plâu planhigion.;”;
(b)yn lle paragraff 15(4) rhodder—
“(4) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.
(5) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.”;
(c)ym mharagraffau 28 a 42, yn lle is-baragraff (3) ym mhob achos rhodder—
“(3) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.
(4) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.”;
(d)yn lle paragraff 50(4) rhodder—
“(4) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.
(4A) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.”
O.S. 2012/245 (Cy. 39). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Mae O.S. 2012/245 (Cy. 39) wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/368 (Cy. 90).