xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 843 (Cy. 186)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Made

at 12.30 p.m. on 7th August 2020

Laid before Senedd Cymru

at 6.00 p.m. on 7th August 2020

Coming into force

10th August 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a deuant i rym ar 10 Awst 2020.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7(2)(a), yn lle “, 6 neu 12” rhodder “neu 6”.

(3Hepgorer rheoliad 10.

(4Yn rheoliad 12—

(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Mae mesurau y caniateir eu cymryd o dan baragraff (2) at ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre hefyd yn cynnwys—

(a)peidio â gwneud gweithgareddau penodol;

(b)cau rhan o’r fangre.

(b)ym mharagraff (3)(h), hepgorer “y caniateir iddynt fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 10(4)”.

(5Yn rheoliad 14(2), ar ôl is-baragraff (o) mewnosoder—

(p)gwneud ymarfer corff gydag eraill, mewn cynulliad o ddim mwy na 30 o bobl, mewn stiwdio ffitrwydd, campfa, pwll nofio, canolfan neu gyfleuster hamdden arall o dan do neu unrhyw fangre agored arall.

(6Yn rheoliad 17—

(a)o flaen paragraff (1) mewnosoder—

(A1) Yn rheoliad 17A ac Atodlen 5, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn.;

(b)ym mharagraff (1)(c), yn lle “rheoliadau 18 i 21” rhodder “y Rheoliadau hyn”;

(c)ym mharagraff (2), yn lle “10(4), 11(4) neu 12(2)” rhodder “11(4) neu 12(2) neu Atodlen 5”.

(7Ar ôl rheoliad 17 mewnosoder—

Gorfodi rheoliad 12(2)

17A.  Mae Atodlenni 5 a 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi swyddogaethau, ac mewn cysylltiad â rhoi swyddogaethau, i swyddogion gorfodaeth at ddibenion rheoliad 12(2).

(8Yn rheoliad 18—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “, 10(4), 12(2)”;

(b)ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(7A) Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan Atodlen 5—

(a)ei wneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i arfer y pŵer;

(b)ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny neu gymryd copïau ohonynt.;

(c)ym mharagraff (8), yn lle “neu reoliad 19” rhodder “, rheoliad 19 neu Atodlen 5”;

(d)ar ôl paragraff (9) mewnosoder—.

(9A) Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan baragraff (7A) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.

(9B) Nid yw unrhyw wybodaeth neu ateb a roddir gan berson mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan baragraff (7A)(a) yn dderbyniadwy mewn tystiolaeth yn erbyn y person hwnnw, neu briod neu bartner sifil y person, mewn achos o dan unrhyw ddeddfiad ac eithrio’r Rheoliadau hyn.

(9Yn rheoliad 19(1)(a), ar ôl “a osodir gan” mewnosoder “neu o dan”.

(10Yn rheoliad 20—

(a)ym mharagraff (1)(a), hepgorer “10(4),” a “neu 12(2)”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Mae person sydd—

(a)heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 5,

(b)yn torri paragraff 3(2) o’r Atodlen honno, neu

(c)heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2) o’r Atodlen honno,

yn cyflawni trosedd.;

(c)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan baragraff (2A)(a) yn agored ar euogfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw’n hwy na 6 mis, i ddirwy, neu i’r ddau.;

(d)ym mharagraff (4), yn lle “trosedd” rhodder “unrhyw drosedd arall”.

(11Yn rheoliad 21(1)(a), yn lle “dan y Rheoliadau hyn” rhodder “o dan y Rheoliadau hyn (ac eithrio trosedd o dan reoliad 20(2A)(a))”.

(12Yn rheoliad 22(1), ar y diwedd mewnosoder “, ac eithrio y caniateir dwyn achos am drosedd o dan reoliad 20(2A) gan awdurdod lleol hefyd”.

(13Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 3, ar ôl “Lleoliadau” mewnosoder “sydd wedi eu hawdurdodi i’w defnyddio i gyflenwi alcohol gan drwydded mangre neu dystysgrif mangre clwb (o fewn yr ystyr a roddir i “premises licence” a “club premises certificate”, yn eu tro, yn Neddf Trwyddedu 2003(3))”;

(b)hepgorer paragraffau 11 i 13.

(14Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 41 mewnosoder—

42.  Pyllau nofio.

43.  Stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd, sbaon a chanolfannau a chyfleusterau hamdden eraill o dan do.

44.  Mannau chwarae o dan do.

(15Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder yr Atodlenni 5 a 6 a nodir yn Atodlenni 1 a 2 i’r Rheoliadau hyn.

Arbedion ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorol

3.  Mae rheoliadau 20 ac 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau hynny wedi eu gwneud.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 12.30 p.m. ar 7 Awst 2020

Rheoliad 2

ATODLEN 1Atodlen 5 newydd i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

Rheoliad 17A

ATODLEN 5Gorfodi rheoliad 12(2)

Hysbysiad gwella mangre

1.(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson sy’n gyfrifol am fangre y cyfeirir ati yn rheoliad 12(1) os yw’r swyddog yn ystyried—

(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 12(2), a

(b)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

(2) Rhaid i hysbysiad gwella mangre—

(a)pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;

(b)pennu’r mesurau y mae’n ei gwneud yn ofynnol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 12(2);

(c)pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);

(d)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

Hysbysiad cau mangre

2.(1) Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson sy’n gyfrifol am fangre y cyfeirir ati yn rheoliad 12(1) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.

(2) Amod 1 yw—

(a)bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,

(b)bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac

(c)bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(3) Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 12(2), a

(b)bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(4) Rhaid i hysbysiad cau mangre—

(a)cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,

(b)pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(i)nad ydynt wedi eu cymryd, a

(ii)y mae rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 12(2),

(c)pan na fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 12(2),

(d)yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,

(e)pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac

(f)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

(5) Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 336 o oriau (14 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.

(6) Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.

(7) Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Effaith hysbysiad cau mangre

3.(1) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—

(a)bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a

(b)na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.

(2) Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.

(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—

(a)pan fo’r person yn byw yn y fangre;

(b)pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;

(c)pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 12(2) pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;

(d)pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;

(e)pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

Terfynu hysbysiad gwella neu gau mangre

4.(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad sy’n terfynu hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre os yw wedi ei fodloni—

(a)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre (os dyroddwyd un) wedi eu cymryd, neu

(b)bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 12(2) yn y fangre o dan sylw.

(2) Mae hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre yn peidio â chael effaith ar yr amser y dyroddir hysbysiad o’r terfyniad.

Apelau

5.(1) Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

(2) Rhaid i apêl gael ei gwneud—

(a)drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980(4), a

(b)o fewn 7 niwrnod ar ôl i’r hysbysiad gael ei ddyroddi.

(3) Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).

(4) Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.

(5) Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—

(a)cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;

(b)cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;

(c)addasu’r hysbysiad;

(d)gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.

(6) Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.

(7) Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.

(8) Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—

(a)cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;

(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.

Dyroddi hysbysiadau gwella a chau mangreoedd a therfyniadau

6.(1) Caiff hysbysiad gwella mangre, hysbysiad cau mangre neu derfyniad o’r naill neu’r llall o’r mathau hynny o hysbysiad ei ddyroddi i berson drwy roi copi ohono yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.

(2) Ond pan na fo’r person sy’n gyfrifol am y fangre y mae’r hysbysiad neu’r terfyniad yn ymwneud â hi yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddyroddi i’r person hwnnw—

(a)os rhoddir copi ohono i unrhyw berson arall yn y fangre yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth a gynhelir yn y fangre, neu

(b)os nad oes unrhyw berson o’r fath yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, os gosodir copi o’r hysbysiad mewn lle amlwg yn y fangre.

Rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau gwella a chau mangreoedd

7.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.

(2) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—

(a)arddangos copi o’r hysbysiad, ac arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 6, mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre;

(b)trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.

(3) Rhaid i hysbysiad neu arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.

(4) Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos a’i gyhoeddi o dan is-baragraff (2) barhau i gael ei arddangos a’i gyhoeddi, a rhaid i arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan yr is-baragraff hwnnw barhau i gael ei arddangos, am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith.

Rheoliad 2

ATODLEN 2Atodlen 6 newydd i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

Rheoliad 17A

ATODLEN 6Y ffurf ar arwydd i fynd gyda hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre

Yr arwydd i’w arddangos gyda hysbysiad gwella mangre

1.(1) Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad gwella mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 5 fod ar y ffurf a nodir isod.

(2) Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du ac ambr C0 M60 Y100 K0 yn yr arwydd.

Yr arwydd i’w arddangos gyda hysbysiad cau mangre

2.(1) Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad cau mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 5 fod ar y ffurf a nodir isod.

(2) Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du a choch C15 M100 Y100 K0 yn yr arwydd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (“y prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiadau yn caniatáu i ganolfannau cymunedol, pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd, campfeydd, sbaon, canolfannau hamdden a mannau chwarae o dan do agor; ond rhaid cymryd mesurau i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre.

Mae’r diwygiadau hefyd yn rhoi pwerau newydd i swyddogion gorfodaeth awdurdodau lleol i sicrhau y cymerir mesurau (yn unol â rheoliad 12 o’r prif Reoliadau) er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd eraill sydd ar agor. Caiff swyddog ddyroddi “hysbysiad gwella mangre” sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am y fangre gymryd mesurau penodedig, ac os na chymerir y mesurau hynny, caiff swyddog ddyroddi “hysbysiad cau mangre” sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre gau. Pan fo’n angenrheidiol, caiff swyddog hefyd ddyroddi hysbysiad cau mangre heb fod wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre cyn hynny. Mae darpariaeth wedi ei gwneud ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau, ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau, ac i dorri telerau’r naill math o hysbysiad neu’r llall fod yn drosedd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(2)

O.S. 2020/725 (Cy. 162), fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/752 (Cy. 169)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/803 (Cy. 176)) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/820 (Cy. 180)).