xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 848 (Cy. 187)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

10 Awst 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

11 Awst 2020

Yn dod i rym

1 Medi 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1), ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 a deuant i rym ar 1 Medi 2020.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 4(2), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2A),”.

4.  Ar ôl rheoliad 4(2) mewnosoder—

(2A) Rhaid cynnal o leiaf 370 o sesiynau mewn ysgol a restrir ym mharagraff (2B) yn ystod y flwyddyn ysgol 2020-2021 ond er hynny nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddosbarth meithrin yn yr ysgolion hynny gyfarfod am y nifer hwnnw o sesiynau.

(2B) Yr holl ysgolion a gynhelir yn yr ardaloedd awdurdod lleol a ganlyn—

(i)Conwy;

(ii)Sir Benfro ac eithrio Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH;

(iii)Powys.

5.  Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—

6.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy’n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2020-2021 sydd wedi ei neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i baratoi ysgolion a chynllunio gan athrawon yn dilyn y gostyngiad mewn gweithrediadau oherwydd amgylchiadau sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).

(2) Mae paragraff (1) i gael effaith mewn perthynas â dim mwy na phedair sesiwn ysgol yn nwy wythnos gyntaf tymor cyntaf y flwyddyn ysgol honno.

(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae’r sesiwn honno i’w hystyried at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu’r ysgol.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

10 Awst 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac i ysgolion arbennig pa un a’u cynhelir felly ai peidio. Maent yn gwneud darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ar gyfer diwrnod ysgol sydd fel arfer i’w rannu yn ddwy sesiwn gydag egwyl yn y canol, ac i ysgolion (ac eithrio ysgolion meithrin) gyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003 mewn dwy ffordd:

(1Er mwyn caniatáu i ysgolion a agorodd am wythnos ychwanegol ar ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol 2019-2020 gynnal o leiaf 370 o sesiynau yn ystod y flwyddyn ysgol 2020-2021 yn lle o leiaf 380 o sesiynau.

(2Er mwyn caniatáu i hyd at bedair sesiwn gyfrif fel sesiynau pan gyfarfu’r ysgol os oeddent wedi eu neilltuo i baratoi ysgolion a chynllunio gan athrawon yn dilyn gostyngiad mewn gweithrediadau o ganlyniad i fynychder a throsglwyddiad y coronafeirws yn ystod y flwyddyn ysgol 2019-2020. Cynhelir y sesiynau hyn yn ystod dwy wythnos gyntaf tymor cyntaf y flwyddyn ysgol 2020-2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Llywodraethiant, Trefniadaeth a Derbyniadau i Ysgolion, Yr Is-adran Effeithiolrwydd Ysgolion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31). Am ystyr “regulations” a “prescribed gweler adran 579(1).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).