Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (“y prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—

(a)

yn caniatáu i aelodau hyd at bedair aelwyd (yn lle dwy) gytuno i gael eu trin fel un aelwyd (estynedig), sy’n golygu y gall aelodau o’r aelwydydd hynny ryngweithio â’i gilydd fel pe baent yn aelodau o un aelwyd;

(b)

yn darparu bod gan bobl esgus rhesymol (o dan reoliad 14 o’r prif Reoliadau) i ymgynnull o dan do, mewn mangreoedd penodol, mewn grŵp o hyd at 30 o bobl—

  • i ddathlu gweinyddiad priodas, neu ffurfiad partneriaeth sifil, sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020, neu

  • i ddathlu bywyd person sydd wedi marw ac y mae ei angladd yn digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020.

(c)

yn darparu, fel eithriad i’r rheol sy’n gwahardd pobl rhag cymryd rhan mewn cynulliadau awyr agored o fwy na 30 o bobl, y caiff digwyddiad awyr agored mwy ddigwydd cyhyd ag y bo—

  • wedi ei drefnu yn unol â thelerau’r eithriad,

  • wedi ei gymeradwyo’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru,

  • dim mwy na 100 o bobl yn bresennol (heb gynnwys personau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo), ac

  • wedi ei gynnal yn unol ag unrhyw amodau a bennir gan Weinidogion Cymru.

(d)

yn egluro bod rheoliad 18(9B) o’r prif Reoliadau (derbynioldeb tystiolaeth) yn gymwys i unrhyw achos ac eithrio achos o dan y prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources