xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 886 (Cy. 196)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020

Gwnaed

am 1.36 p.m. ar 21 Awst 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.30 p.m. ar 21 Awst 2020

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 22 Awst 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 22 Awst 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).

RHAN 2Diwygio’r rhestr o wledydd esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Ychwanegu Portiwgal at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

2.  Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—

Portiwgal.

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2

3.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 22 Awst 2020—

(a)oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o Bortiwgal, neu ar ôl bod ym Mhortiwgal, a

(b)diwrnod olaf ynysiad P yw 22 Awst 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.

(2Nid yw ychwanegu Portiwgal at Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 22 Awst 2020 neu wedi hynny, a

(b)wedi bod ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(4At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â Phortiwgal, drwy gyfeirio at ba un a oedd Portiwgal yn wlad nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws Portiwgal pan fo P yn cyrraedd Cymru).

(5Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.

Hepgor gwledydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

4.  Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—

Awstria

Croatia

Trinidad a Tobago.

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 4

5.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 22 Awst 2020 neu wedi hynny, a

(b)wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 4 ddiwethaf—

(i)o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

(ii)cyn 4.00 a.m. ar 22 Awst 2020.

(2Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn y wlad honno, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.

RHAN 3Diwygiadau amrywiol

Diwygiadau i reoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau)

6.  Yn rheoliad 9(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofynion ynysu: esemptiadau), yn lle “36” rhodder “38”.

Diwygiadau i reoliad 10 (gofynion ynysu: eithriadau)

7.—(1Mae rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofynion ynysu: eithriadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer paragraff (4)(je) i (jg).

(3Hepgorer paragraff (8)(b) i (e).

Diwygiadau i Atodlen 2 (personau esempt)

8.—(1Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 9 rhodder—

9.  Arolygydd neu syrfëwr llongau, a benodwyd o dan adran 256 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(3) neu gan lywodraeth meddiant Prydeinig perthnasol fel y diffinnir “relevant British possession” yn adran 313(1) o’r Ddeddf honno, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(3Ar y diwedd mewnosoder—

38.(1) Person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig—

(a)sy’n athletwr elît sy’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth elît dramor,

(b)sy’n darparu cymorth i athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu fel arall yn ei hyfforddi, neu

(c)sy’n gwasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît dramor neu fel arall yn ymwneud â’i rhedeg,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ddychwelyd o’r gystadleuaeth elît dramor.

(2) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “athletwr elît” yw person—

(i)sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,

(ii)sy’n athletwr elît o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(4), neu

(iii)nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i) neu (ii) sy’n cymryd rhan yng nghynghrair Pencampwyr UEFA neu gynghrair Europa;

(b)ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu ynddi—

(i)i ennill bywoliaeth, neu

(ii)i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad;

(c)ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae person i’w drin fel pe bai wedi dychwelyd o gystadleuaeth o’r fath os yw’r person, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â diwrnod olaf ynysiad y person, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion cystadleuaeth o’r fath.

Diwygiadau i Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig)

9.—(1Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 3 rhodder—

3.  Dartiau—

(a)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Cyfres yr Haf;

(b)Betfred World Matchplay Darts;

(c)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Uwch-gynghrair Unibet;

(d)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Y Daith Ddatblygu;

(e)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Y Daith Her;

(f)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Cyfres y Menywod;

(g)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Pencampwriaeth y Chwaraewyr;

(h)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd.

(3Yn lle paragraff 10 rhodder—

10.  Snwcer—

(a)Pencampwriaeth Snwcer y Byd Betfred;

(b)Taith Snwcer y Byd - Meistri Ewrop;

(c)Taith Snwcer y Byd - Pencampwriaeth Agored Lloegr;

(d)Taith Snwcer y Byd - Shoot Out;

(e)Twrnamaint Snwcer Pencampwr y Pencampwyr Matchroom.

(4Yn y testun Cymraeg, yn lle paragraff 14 rhodder—

14.  Bocsio—

(a)Matchroom Fight Camp - Gornest Ryngwladol Pwysau Trwm;

(b)Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Trwm y Byd Cyngor Bocsio’r Byd;

(c)Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Ysgafn y Byd y Menywod Sefydliad Bocsio’r Byd.

(5Ar y diwedd mewnosoder—

15.  Sboncen - Twrnamaint Sboncen Agored Manceinion 2020.

16.  Bowlio Deg - Cwpan Weber Matchroom BetVictor.

17.  Pŵl - Twrnamaint Pŵl Cwpan Mosconi Partypoker Matchroom.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 1.36 p.m. ar 21 Awst 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau. Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu Portiwgal at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor Awstria, Croatia a Trinidad a Tobago o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.

Mae rheoliadau 3 a 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 4 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 9 a 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol o ganlyniad i reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 8 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewn cysylltiad â’r eithriadau i gategorïau penodol o weithwyr. Yn gyntaf mae’n ehangu’r diffiniad o arolygwr neu syrfëwr llongau i gynnwys y rheini sy’n rhan o lywodraeth meddiant Prydeinig perthnasol. Yn ychwanegol at hynny, mae rheoliad 8 yn cynnwys esemptiad newydd i’r gofynion ynysu mewn cysylltiad ag athletwyr elît sy’n preswylio yn y DU wedi iddynt ddychwelyd o gystadleuaeth elît.

Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu digwyddiadau a gornestau eraill at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae rheoliad 9 hefyd yn cywiro camgymeriad a ganfyddir yn nhestun Cymraeg y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.