Diwygiadau i Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig)LL+C
9.—(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 3 rhodder—
“3. Dartiau—
(a)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Cyfres yr Haf;
(b)Betfred World Matchplay Darts;
(c)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Uwch-gynghrair Unibet;
(d)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Y Daith Ddatblygu;
(e)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Y Daith Her;
(f)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Cyfres y Menywod;
(g)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Pencampwriaeth y Chwaraewyr;
(h)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd.”
(3) Yn lle paragraff 10 rhodder—
“10. Snwcer—
(a)Pencampwriaeth Snwcer y Byd Betfred;
(b)Taith Snwcer y Byd - Meistri Ewrop;
(c)Taith Snwcer y Byd - Pencampwriaeth Agored Lloegr;
(d)Taith Snwcer y Byd - Shoot Out;
(e)Twrnamaint Snwcer Pencampwr y Pencampwyr Matchroom.”
(4) Yn y testun Cymraeg, yn lle paragraff 14 rhodder—
“14. Bocsio—
(a)Matchroom Fight Camp - Gornest Ryngwladol Pwysau Trwm;
(b)Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Trwm y Byd Cyngor Bocsio’r Byd;
(c)Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Ysgafn y Byd y Menywod Sefydliad Bocsio’r Byd.”
(5) Ar y diwedd mewnosoder—
“15. Sboncen - Twrnamaint Sboncen Agored Manceinion 2020.
16. Bowlio Deg - Cwpan Weber Matchroom BetVictor.
17. Pŵl - Twrnamaint Pŵl Cwpan Mosconi Partypoker Matchroom.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 9 mewn grym ar 22.8.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)