2020 Rhif 89 (Cy. 13)
Bwyd, Cymru

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020

Made
Laid before the National Assembly for Wales
Coming into force in accordance with regulation 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e) a (2)(b), 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2 ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd4.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at ddarpariaethau Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc5 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19906.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd7, wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)

ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, ar 22 Chwefror 2020;

(b)

ar 22 Chwefror 2021 mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein.

(3)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I2Rhl. 1 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Dehongli2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o’r Ddeddf8;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “gofyniad cyfraith UE penodedig” (“specified EU law requirement”) yw unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, fel y’i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;

ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig” (“the Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc9.

(2)

Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(3)

Mae i ymadroddion Saesneg a’r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Rheoliad Dirprwyedig yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad Dirprwyedig.

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 2 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I4Rhl. 2 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Gorfodi3.

Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Annotations:
Commencement Information

I5Rhl. 3 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I6Rhl. 3 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf4.

(1)

Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2, at ddibenion—

(a)

galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofyniad cyfraith UE penodedig; a

(b)

gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2)

Mae adran 32(1) i (8) o’r Ddeddf10 (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi—

(a)

i arfer pŵer mynediad i ganfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig yn cael ei werthu neu wedi ei werthu; a

(b)

i arfer pŵer mynediad i ganfod a oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o ofyniad cyfraith UE penodedig.

(3)

Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2, at ddiben pennu’r gosb am drosedd a gyflawnir o dan adran 10(2) fel y’i cymhwysir gan baragraff (1)(b).

(4)

Mae adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 2, at ddiben galluogi person i apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5)

Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 39(1) a (3)) a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 2, at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(6)

Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir ym mharagraff (7) (“y darpariaethau paragraff (7)”) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 2, at ddibenion y Rheoliadau hyn i’r graddau y maent yn ymwneud â’r darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir ym mharagraffau (1) i (5) ac a addesir ganddynt.

(7)

Y darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir at ddibenion y paragraff hwn, yw—

(a)

adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);

(b)

adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);

(c)

adran 2111 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);

(d)

adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yng nghwrs busnes);

(e)

adran 29 (caffael samplau);

(f)

adran 3012 (dadansoddi etc. samplau);

(g)

adran 3313 (rhwystro etc. swyddogion);

(h)

adran 36 (troseddau gan gyrff corfforedig);

(i)

adran 36A14 (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd);

(j)

adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll);

(k)

adran 53 (dehongli cyffredinol);

ac mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau paragraff (7) at adran o’r Ddeddf, gan gynnwys cyfeiriad at “any of the preceding provisions of this Part”, i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr adrannau hynny o’r Ddeddf sy’n gymwys yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a chyda’r addasiadau a wneir ganddynt.

Annotations:
Commencement Information

I7Rhl. 4 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I8Rhl. 4 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Dirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol5.

(1)

Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2)

Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 yn parhau i gael effaith (i’r graddau y maent wedi eu dirymu fel arall i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw)—

(a)

tan 21 Chwefror 2021 mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein;

(b)

at ddibenion paragraff (3)(b).

(3)

Caiff fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol nad ydynt yn cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau o’r bwyd hwnnw gael eu disbyddu, ar yr amod—

(a)

iddo gael ei roi ar y farchnad neu ei labelu—

(i)

cyn 22 Chwefror 2020; neu

(ii)

cyn 22 Chwefror 2021 yn achos fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein; a

(b)

bod yr amodau a bennir yn y ddarpariaeth a ganlyn yn Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 200715 wedi eu bodloni—

(i)

rheoliad 3(1) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla fabanod oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla fabanod;

(ii)

rheoliad 3(2) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla ddilynol oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla ddilynol.

Annotations:
Commencement Information

I9Rhl. 5 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I10Rhl. 5 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Gofynion cyfraith UE penodedig

Rheoliad 2(1)

Annotations:
Commencement Information

I11Atod. 1 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I12Atod. 1 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Colofn 1

Colofn 2

Darpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig

Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig sydd i’w darllen gydaʼr ddarpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig

Erthygl 1(2) (rhoi ar y farchnad)

Erthygl 1(1)

Erthygl 2(1) (gofynion o ran cyfansoddiad ar gyfer fformiwla fabanod)

Erthyglau 1(1) a 2(3), Atodiad 1 ac Atodiad 3

Erthygl 2(2) (gofynion o ran cyfansoddiad ar gyfer fformiwla ddilynol)

Erthyglau 1(1) a 2(3), Atodiad 2 ac Atodiad 3

Erthygl 2(3) (paratoi fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)

Erthyglau 1(1), 2(1) a (2)

Erthygl 3(1) (addasrwydd cynhwysion ar gyfer fformiwla fabanod)

Erthyglau 1(1) a 3(3) a pharagraff 2 o Atodiad 1

Erthygl 3(2) (addasrwydd cynhwysion ar gyfer fformiwla ddilynol)

Erthyglau 1(1) a 3(3) a pharagraff 2 o Atodiad 2

Erthygl 4(2) (trothwy gweddillion sylwedd gweithredol)

Erthyglau 1(1) a 4(1), (3) a (5)

Erthygl 4(3) (rhanddirymiad o drothwy gweddillion sylwedd gweithredol)

Erthyglau 1(1) a 4(1), (2) a (5)

Erthygl 4(4) (gofynion o ran plaladdwyr)

Erthyglau 1(1) a 4(1) a (5)

Erthygl 5(1) (enw bwyd nad yw wedi ei weithgynhyrchu’n llwyr o brotein llaeth gwartheg neu eifr)

Erthygl 1(1) a Rhan A o Atodiad 6

Erthygl 5(2) (enw bwyd sydd wedi ei weithgynhyrchu’n llwyr o brotein llaeth gwartheg neu eifr)

Erthygl 1(1) a Rhan B o Atodiad 6

Erthygl 6 (gofynion penodol o ran gwybodaeth am fwyd)

Erthyglau 1(1) a 7(1), (2), (3), (5), (6), (7) ac (8)

Erthygl 7(1) (gofynion penodol o ran y datganiad ynglŷn â maethiad)

Erthyglau 1(1) a 7(4), Atodiad 1 ac Atodiad 2

Erthygl 7(3) (ailadrodd gwybodaeth a gynhwysir mewn datganiad mandadol ynglŷn â maethiad)

Erthygl 1(1)

Erthygl 7(4) (datganiad ynglŷn â maethiad yn fandadol ni waeth beth fo maint y pecyn neu’r cynhwysydd)

Erthyglau 1(1) a 7(1), Atodiad 1 ac Atodiad 2

Erthygl 7(5) (cymhwyso Erthyglau 31 i 35 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011(1))

Erthyglau 1(1) a 7(6), (7) ac (8)

Erthygl 7(6) (mynegi gwerth egni a symiau maetholion)

Erthyglau 1(1) a 7(5)

Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 7(7) (gwaharddiad ar fynegi gwerth egni a swm maetholion fel canran o’r cymeriant cyfeirio)

Erthyglau 1(1) a 7(5)

Erthygl 7(8) (cyflwyno manylion a gynhwysir yn y datganiad ynglŷn â maethiad)

Erthygl 1(1)

Erthygl 8 (gwaharddiad ar wneud honiadau am faethiad ac iechyd ar fformiwla fabanod)

Erthygl 1(1)

Erthygl 9(1) (datganiad “lactose only”)

Erthygl 1(1)

Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 9(2) (datganiad “lactose free”)

Erthygl 1(1)

Yr ail is-baragraff o Erthygl 9(2) (datganiad nad yw fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol “lactose free” yn addas ar gyfer babanod â galactosemia)

Erthygl 1(1)

Erthygl 9(3) (gwaharddiad ar gyfeiriadau at asid docosahecsenoig pan fo fformiwla fabanod yn cael ei rhoi ar y farchnad ar 22 Chwefror 2025 neu wedi hynny)

Erthygl 1(1)

Erthygl 10(1) (cyfyngiad ar hysbysebu ar gyfer fformiwla fabanod)

Erthygl 1(1)

Erthygl 10(2) (gwaharddiad ar ddulliau hyrwyddo er mwyn cymell gwerthiant o fformiwla fabanod)

Erthygl 1(1)

Erthygl 10(3) (gwaharddiad ar ddarparu cynhyrchion, samplau neu anrhegion hyrwyddo eraill, am ddim neu am bris isel, i’r cyhoedd, i fenywod beichiog, i famau neu i aelodau o’u teuluoedd)

Erthygl 1(1)

Erthygl 10(4) (gofynion ar gyfer rhoddion neu werthiannau am bris isel o gyflenwadau o fformiwla fabanod i sefydliadau neu gyrff)

Erthygl 1(1)

Erthygl 11(2) (gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc)

Erthygl 1(1)

Erthygl 11(3) (gofynion o ran rhoddion o gyfarpar neu ddeunyddiau at ddibenion gwybodaeth neu addysg)

Erthygl 12 (gofynion hysbysu)

Erthygl 1(1)

(1)

Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 25 Hydref 2011 ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, etc. (OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t. 18).

ATODLEN 2Addasu darpariaethau’r Ddeddf

Rheoliad 4

RHAN 1Addasu adran 10 o’r Ddeddf

1.

Mae adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

“(1)

If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a specified EU law requirement, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)

state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply or, as the case may be, that the food does not comply with the specified EU law requirement;

(b)

specify the matters which constitute the failure to comply;

(c)

specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)

require the person to take those measures, or such measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.”

Annotations:
Commencement Information

I13Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I14Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 2Addasu adran 32 o’r Ddeddf

2.

Mae adran 32 o’r Ddeddf16 (pwerau mynediad) yn gymwys fel pe bai—

(a)

yn is-adran (1), y canlynol wedi ei roi yn lle paragraffau (a) i (c)—

“(a)

to enter any premises within the authority’s area for the purpose of ascertaining whether there has been any contravention of a specified EU law requirement;

(b)

to enter any business premises, whether within or outside the authority’s area, for the purpose of ascertaining whether there is on the premises any evidence of any contravention of a specified EU law requirement; and

(c)

when exercising a power of entry under this section, to exercise the associated powers in subsections (5) and (6) relating to records;”;

(b)

is-adran (9) wedi ei hepgor.

Annotations:
Commencement Information

I15Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I16Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 3Addasu adran 35 o’r Ddeddf

3.

Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod o flaen is-adran (2)—

“(1B)

A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 4(1) of the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020, is liable on summary conviction, to a fine.”

Annotations:
Commencement Information

I17Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I18Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 4Addasu adran 37 o’r Ddeddf

4.

Mae adran 37 o’r Ddeddf (apelau i lys ynadon neu siryf) yn gymwys fel pe bai—

(a)

“Appeals” wedi ei roi yn lle’r pennawd;

(b)

y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

“(1)

Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 4(1) of, and Part 1 of Schedule 2 to, the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020 may appeal to the magistrates’ court.”;

(c)

is-adran (2) wedi ei hepgor;

(d)

y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (5)—

“(5)

The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought must be—whichever ends the earlier—

(a)

one month from the date on which notice of the decision was served on the person desiring to appeal; or

(b)

the period specified in the improvement notice

and in the case of such an appeal, the making of the complaint shall be deemed for the purposes of this subsection to be the bringing of the appeal.”

(e)

yn is-adran (6)—

(i)

“subsection (1)” wedi ei roi yn lle “subsection (3) or (4)”; a

(ii)

ym mharagraff (a), “or to the sheriff” wedi ei hepgor.

Annotations:
Commencement Information

I19Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I20Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 5Addasu adran 39 o’r Ddeddf

5.

Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (3), “for want of prosecution” wedi ei hepgor.

Annotations:
Commencement Information

I21Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I22Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 6Addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf

6.

Mae adran 3 o Ddeddf 1990 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.

Annotations:
Commencement Information

I23Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I24Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

7.

Mae adran 20 o’r Ddeddf (troseddau oherwydd bai person arall) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.

Annotations:
Commencement Information

I25Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I26Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

8.

Mae adran 21 o’r Ddeddf (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.

Annotations:
Commencement Information

I27Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I28Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

9.

Mae adran 22 o’r Ddeddf (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.

Annotations:
Commencement Information

I29Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I30Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

10.

Mae adran 29 o’r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (b)(ii), “including under section 32 as applied and modified by regulation 4(2) of, and Part 2 of Schedule 2 to, the 2020 Regulations” wedi ei fewnosod ar ôl “under section 32 below”.

Annotations:
Commencement Information

I31Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I32Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

11.

Mae adran 30 o’r Ddeddf (dadansoddi etc. samplau) yn gymwys fel pe bai—

(a)

yn is-adran (1), “including under section 29 as applied and modified by regulation 4(6) of, and Part 6 of Schedule 2 to, the 2020 Regulations” wedi ei fewnosod ar ôl “under section 29 above”; a

(b)

yn is-adran (8), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.

Annotations:
Commencement Information

I33Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I34Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

12.

Mae adran 33 o’r Ddeddf (rhwystro etc. swyddogion) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd).

Annotations:
Commencement Information

I35Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I36Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

13.

Mae adran 36 o’r Ddeddf (troseddau gan gyrff corfforedig) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.

Annotations:
Commencement Information

I37Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I38Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

14.

Mae adran 36A o’r Ddeddf17 (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.
Annotations:
Commencement Information

I39Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I40Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

15.

Mae adran 44 o’r Ddeddf (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act” ym mhob lle y mae’r geiriau hynny yn ymddangos.

Annotations:
Commencement Information

I41Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I42Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

16.

Mae adran 53 (dehongli cyffredinol) yn gymwys fel pe bai—

(a)

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl y diffiniad o “the 1956 Act”—

““the 2020 Regulations” means the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020;”;

(b)

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl y diffiniad o “slaughterhouse”—

““specified EU law requirement” has the meaning given in regulation 2(1) of the 2020 Regulations;”.

Annotations:
Commencement Information

I43Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I44Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

ATODLEN 3Dirymiadau sy’n gysylltiedig â Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol

Rheoliad 5(1)

Annotations:
Commencement Information

I45Atod. 3 mewn grym ar 22.2.2021 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(b)

I46Atod. 3 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Offeryn

Cyfeirnod

Graddau’r dirymu

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007

O.S. 2007/3573 (Cy. 316)

Y Rheoliadau cyfan, ac eithrio rheoliad 30

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2008

O.S. 2008/2602 (Cy. 228)

Rheoliad 2

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014

O.S. 2014/123 (Cy. 13)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014

O.S. 2014/1102 (Cy. 110)

Rheoliad 5

Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016

O.S. 2016/639 (Cy. 175)

Atodlen 3, paragraff 4

NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn gwneud darpariaeth i orfodi Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc (OJ Rhif L 25, 2.2.2016, t. 1, “y Rheoliad Dirprwyedig”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) ac mae’r cyfeiriadau ynddynt at ddarpariaethau’r Rheoliad Dirprwyedig i’w dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal. Mae rheoliad 2(1) yn cynnwys diffiniad o “awdurdod bwyd”.

Mae rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16) at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 5 ac Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dirymiadau ac arbedion o ganlyniad i’r Rheoliadau hyn. Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 Cy. 316) (“Rheoliadau 2007”) a’r darpariaethau sy’n diwygio’r Rheoliadau hynny wedi eu dirymu. Mae Rheoliadau 2007 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ddyddiedig 22 Rhagfyr 2006 ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC (OJ Rhif L 401, 30.12.2006, t. 1) a Chyfarwyddeb y Cyngor 95/52/EEC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol a fwriedir ar gyfer eu hallforio i drydydd gwledydd (OJ Rhif L 179, 1.7.1992, t. 129). Mae Erthygl 13 o’r Rheoliad Dirprwyedig yn diddymu’r Gyfarwyddeb honno gydag effaith o 22 Chwefror 2020, ac o 22 Chwefror 2021 yn achos fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein.

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ymhellach ar gyfer y dirymiadau sydd i’w harbed at ddibenion y trefniadau trosiannol yn y rheoliad hwnnw. Mae’r trefniadau trosiannol hynny yn darparu, pan fo fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol wedi ei rhoi ar y farchnad neu ei labelu cyn dyddiad cymhwyso’r Rheoliad Dirprwyedig (22 Chwefror 2020 neu, yn achos fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol sydd wedi ei gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein, 22 Chwefror 2021), y caiff barhau i gael ei marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu, ar yr amod bod gofynion penodol wedi eu bodloni.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.