Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, ar 22 Chwefror 2020;

(b)ar 22 Chwefror 2021 mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I2Rhl. 1 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o’r Ddeddf(1);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “gofyniad cyfraith UE penodedig” (“specified EU law requirement”) yw unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, fel y’i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;

ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig” (“the Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc(2).

(2Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(3Mae i ymadroddion Saesneg a’r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Rheoliad Dirprwyedig yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad Dirprwyedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 2 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I4Rhl. 2 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

GorfodiLL+C

3.  Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 3 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I6Rhl. 3 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Cymhwyso darpariaethau’r DdeddfLL+C

4.—(1Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2, at ddibenion—

(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofyniad cyfraith UE penodedig; a

(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2Mae adran 32(1) i (8) o’r Ddeddf(3) (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi—

(a)i arfer pŵer mynediad i ganfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig yn cael ei werthu neu wedi ei werthu; a

(b)i arfer pŵer mynediad i ganfod a oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o ofyniad cyfraith UE penodedig.

(3Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2, at ddiben pennu’r gosb am drosedd a gyflawnir o dan adran 10(2) fel y’i cymhwysir gan baragraff (1)(b).

(4Mae adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 2, at ddiben galluogi person i apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 39(1) a (3)) a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 2, at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(6Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir ym mharagraff (7) (“y darpariaethau paragraff (7)”) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 2, at ddibenion y Rheoliadau hyn i’r graddau y maent yn ymwneud â’r darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir ym mharagraffau (1) i (5) ac a addesir ganddynt.

(7Y darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir at ddibenion y paragraff hwn, yw—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21(4) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);

(d)adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yng nghwrs busnes);

(e)adran 29 (caffael samplau);

(f)adran 30(5) (dadansoddi etc. samplau);

(g)adran 33(6) (rhwystro etc. swyddogion);

(h)adran 36 (troseddau gan gyrff corfforedig);

(i)adran 36A(7) (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd);

(j)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll);

(k)adran 53 (dehongli cyffredinol);

ac mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau paragraff (7) at adran o’r Ddeddf, gan gynnwys cyfeiriad at “any of the preceding provisions of this Part”, i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr adrannau hynny o’r Ddeddf sy’n gymwys yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a chyda’r addasiadau a wneir ganddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 4 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I8Rhl. 4 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Dirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannolLL+C

5.—(1Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 yn parhau i gael effaith (i’r graddau y maent wedi eu dirymu fel arall i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw)—

(a)tan 21 Chwefror 2021 mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein;

(b)at ddibenion paragraff (3)(b).

(3Caiff fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol nad ydynt yn cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau o’r bwyd hwnnw gael eu disbyddu, ar yr amod—

(a)iddo gael ei roi ar y farchnad neu ei labelu—

(i)cyn 22 Chwefror 2020; neu

(ii)cyn 22 Chwefror 2021 yn achos fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein; a

(b)bod yr amodau a bennir yn y ddarpariaeth a ganlyn yn Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007(8) wedi eu bodloni—

(i)rheoliad 3(1) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla fabanod oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla fabanod;

(ii)rheoliad 3(2) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla ddilynol oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla ddilynol.

[F1(4) Nid yw rheoliadau 2 i 4 yn gymwys mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein tan 22 Chwefror 2022.

(5) Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein tan 22 Chwefror 2022.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 5 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I10Rhl. 5 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

30 Ionawr 2020