xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn gwneud darpariaeth i orfodi Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc (OJ Rhif L 25, 2.2.2016, t. 1, “y Rheoliad Dirprwyedig”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) ac mae’r cyfeiriadau ynddynt at ddarpariaethau’r Rheoliad Dirprwyedig i’w dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae rheoliad 3 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal. Mae rheoliad 2(1) yn cynnwys diffiniad o “awdurdod bwyd”.
Mae rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16) at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 5 ac Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dirymiadau ac arbedion o ganlyniad i’r Rheoliadau hyn. Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 Cy. 316) (“Rheoliadau 2007”) a’r darpariaethau sy’n diwygio’r Rheoliadau hynny wedi eu dirymu. Mae Rheoliadau 2007 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ddyddiedig 22 Rhagfyr 2006 ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC (OJ Rhif L 401, 30.12.2006, t. 1) a Chyfarwyddeb y Cyngor 95/52/EEC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol a fwriedir ar gyfer eu hallforio i drydydd gwledydd (OJ Rhif L 179, 1.7.1992, t. 129). Mae Erthygl 13 o’r Rheoliad Dirprwyedig yn diddymu’r Gyfarwyddeb honno gydag effaith o 22 Chwefror 2020, ac o 22 Chwefror 2021 yn achos fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein.
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ymhellach ar gyfer y dirymiadau sydd i’w harbed at ddibenion y trefniadau trosiannol yn y rheoliad hwnnw. Mae’r trefniadau trosiannol hynny yn darparu, pan fo fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol wedi ei rhoi ar y farchnad neu ei labelu cyn dyddiad cymhwyso’r Rheoliad Dirprwyedig (22 Chwefror 2020 neu, yn achos fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol sydd wedi ei gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein, 22 Chwefror 2021), y caiff barhau i gael ei marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu, ar yr amod bod gofynion penodol wedi eu bodloni.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.