DehongliI2I12

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o’r Ddeddf8;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “gofyniad cyfraith UE penodedig” (“specified EU law requirement”) yw unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, fel y’i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;

  • ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig” (“the Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc9.

2

Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

3

Mae i ymadroddion Saesneg a’r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Rheoliad Dirprwyedig yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad Dirprwyedig.