- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4.—(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2, at ddibenion—
(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofyniad cyfraith UE penodedig; a
(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.
(2) Mae adran 32(1) i (8) o’r Ddeddf(1) (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi—
(a)i arfer pŵer mynediad i ganfod a yw bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig yn cael ei werthu neu wedi ei werthu; a
(b)i arfer pŵer mynediad i ganfod a oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o ofyniad cyfraith UE penodedig.
(3) Mae adran 35 o’r Ddeddf (cosbi troseddau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2, at ddiben pennu’r gosb am drosedd a gyflawnir o dan adran 10(2) fel y’i cymhwysir gan baragraff (1)(b).
(4) Mae adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 2, at ddiben galluogi person i apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(5) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 39(1) a (3)) a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 2, at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).
(6) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir ym mharagraff (7) (“y darpariaethau paragraff (7)”) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 2, at ddibenion y Rheoliadau hyn i’r graddau y maent yn ymwneud â’r darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir ym mharagraffau (1) i (5) ac a addesir ganddynt.
(7) Y darpariaethau yn y Ddeddf, a bennir at ddibenion y paragraff hwn, yw—
(a)adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
(b)adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
(c)adran 21(2) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);
(d)adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yng nghwrs busnes);
(e)adran 29 (caffael samplau);
(f)adran 30(3) (dadansoddi etc. samplau);
(g)adran 33(4) (rhwystro etc. swyddogion);
(h)adran 36 (troseddau gan gyrff corfforedig);
(i)adran 36A(5) (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd);
(j)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll);
(k)adran 53 (dehongli cyffredinol);
ac mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau paragraff (7) at adran o’r Ddeddf, gan gynnwys cyfeiriad at “any of the preceding provisions of this Part”, i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr adrannau hynny o’r Ddeddf sy’n gymwys yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a chyda’r addasiadau a wneir ganddynt.
Mae diwygiadau i adran 32(5) a (6), ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.
Diwygiwyd adran 30 gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.
Diwygiwyd adran 33 gan baragraff 3(1) a (4) o’r Atodlen i Ddeddf Bwyd (Yr Alban) 2015 (dsa 1).
Mewnosodwyd adran 36A gan baragraff 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: