5.—(1) Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 3 yn parhau i gael effaith (i’r graddau y maent wedi eu dirymu fel arall i’r graddau a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw)—
(a)tan 21 Chwefror 2021 mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein;
(b)at ddibenion paragraff (3)(b).
(3) Caiff fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol nad ydynt yn cydymffurfio â gofyniad cyfraith UE penodedig barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau o’r bwyd hwnnw gael eu disbyddu, ar yr amod—
(a)iddo gael ei roi ar y farchnad neu ei labelu—
(i)cyn 22 Chwefror 2020; neu
(ii)cyn 22 Chwefror 2021 yn achos fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein; a
(b)bod yr amodau a bennir yn y ddarpariaeth a ganlyn yn Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007(1) wedi eu bodloni—
(i)rheoliad 3(1) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla fabanod oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla fabanod;
(ii)rheoliad 3(2) (gwaharddiad ar farchnata fformiwla ddilynol oni bai bod amodau penodol wedi eu bodloni) yn achos fformiwla ddilynol.
[F1(4) Nid yw rheoliadau 2 i 4 yn gymwys mewn cysylltiad â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein tan 22 Chwefror 2022.
(5) Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein tan 22 Chwefror 2022.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 5(4)(5) wedi eu mewnosod (16.9.2021) gan Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/955), rhlau. 1(2), 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 5 mewn grym ar 22.2.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I2Rhl. 5 mewn grym ar 22.2.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)
O.S. 2007/3573 (Cy. 316). Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2008/2602 (Cy. 228).