xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2Addasu darpariaethau’r Ddeddf

RHAN 6Addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf

6.  Mae adran 3 o Ddeddf 1990 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.

7.  Mae adran 20 o’r Ddeddf (troseddau oherwydd bai person arall) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.

8.  Mae adran 21 o’r Ddeddf (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.

9.  Mae adran 22 o’r Ddeddf (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “any of the preceding provisions of this Part”.

10.  Mae adran 29 o’r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (b)(ii), “including under section 32 as applied and modified by regulation 4(2) of, and Part 2 of Schedule 2 to, the 2020 Regulations” wedi ei fewnosod ar ôl “under section 32 below”.

11.  Mae adran 30 o’r Ddeddf (dadansoddi etc. samplau) yn gymwys fel pe bai—

(a)yn is-adran (1), “including under section 29 as applied and modified by regulation 4(6) of, and Part 6 of Schedule 2 to, the 2020 Regulations” wedi ei fewnosod ar ôl “under section 29 above”; a

(b)yn is-adran (8), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.

12.  Mae adran 33 o’r Ddeddf (rhwystro etc. swyddogion) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd).

13.  Mae adran 36 o’r Ddeddf (troseddau gan gyrff corfforedig) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (1), “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.

14.  Mae adran 36A o’r Ddeddf(1) (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act”.

15.  Mae adran 44 o’r Ddeddf (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) yn gymwys fel pe bai “the 2020 Regulations” wedi ei roi yn lle “this Act” ym mhob lle y mae’r geiriau hynny yn ymddangos.

16.  Mae adran 53 (dehongli cyffredinol) yn gymwys fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl y diffiniad o “the 1956 Act”—

“the 2020 Regulations” means the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2020;;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl y diffiniad o “slaughterhouse”—

“specified EU law requirement” has the meaning given in regulation 2(1) of the 2020 Regulations;.

(1)

Mewnosodwyd adran 36A gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 16 o Atodlen 5 iddi.