F1ATODLEN 4Rheoleiddio fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd wedi eu gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein tan 22 Chwefror 2022

Sylweddau rhestredig a’u meini prawf purdeb (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)

11.

(1)

Dim ond y sylweddau a restrir yn Atodiad III y caniateir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol er mwyn bodloni gofynion Atodiadau I a II yn y drefn honno—

(a)

ar sylweddau mwynol;

(b)

ar fitaminau;

(c)

ar asidau amino a chyfansoddion nitrogen eraill; a

(d)

ar sylweddau eraill sydd â diben maethol neilltuol.

(2)

Rhaid i sylweddau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol yn unol ag is-baragraff (1) fodloni’r meini prawf purdeb perthnasol.

(3)

Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw—

(a)

y meini prawf purdeb ar gyfer sylweddau, fel y darperir ar eu cyfer F2mewn cyfraith a gymathwyd ynghylch y defnydd o sylweddau a restrir yn Atodiad III, wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddibenion ac eithrio’r rheini a gwmpesir gan y Gyfarwyddeb; a

(b)

yn absenoldeb meini prawf purdeb o’r fath, meini prawf purdeb a dderbynnir yn gyffredinol a argymhellir gan gyrff rhyngwladol.