[F1Darparu deunydd gwybodaethol ac addysgol sy’n ymdrin â bwydo babanodLL+C
23.—(1) Ni chaiff unrhyw berson gynhyrchu na chyhoeddi unrhyw ddeunydd gwybodaethol neu addysgol, pa un ai ar ffurf ysgrifenedig neu glyweledol, sy’n ymdrin â bwydo babanod ac y bwriedir iddo gyrraedd menywod beichiog a mamau babanod a mamau plant ifanc, onid yw’r deunydd hwnnw yn cynnwys gwybodaeth glir ar bob un o’r pwyntiau a ganlyn—
(a)manteision a rhagoriaeth bwydo ar y fron;
(b)maethiad y fam;
(c)paratoi ar gyfer bwydo ar y fron a’i gynnal;
(d)effaith negyddol bosibl cyflwyno bwydo rhannol â photel ar fwydo ar y fron;
(e)anhawster newid y penderfyniad i beidio â bwydo ar y fron; ac
(f)pan fo angen, y defnydd priodol o fformiwla fabanod.
(2) Pan yw’r deunydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn cynnwys gwybodaeth am y defnydd o fformiwla fabanod, rhaid iddo gynnwys gwybodaeth—
(a)am y goblygiadau cymdeithasol ac ariannol o’i ddefnyddio;
(b)am beryglon bwydydd neu ddulliau bwydo amhriodol i iechyd; ac
(c)am beryglon camddefnyddio fformiwla fabanod i iechyd.
(3) Pan yw’r deunydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yn cynnwys gwybodaeth am y defnydd o fformiwla fabanod, ni chaiff ddefnyddio unrhyw luniau a all ddelfrydu’r defnydd o fformiwla fabanod.
(4) Ni chaiff unrhyw weithgynhyrchwr na dosbarthwr fformiwla fabanod wneud rhodd o unrhyw gyfarpar na deunyddiau gwybodaethol neu addysgol ac eithrio yn unol â’r amodau a ganlyn—
(a)rhaid bod y rhodd wedi ei gwneud ar ôl cael cais amdani gan y sawl y bwriedir iddo ei derbyn;
(b)rhaid bod y rhodd wedi ei gwneud gydag awdurdod ysgrifenedig Gweinidogion Cymru neu yn unol â chanllawiau a luniwyd gan Weinidogion Cymru;
(c)rhaid peidio â marcio na labelu’r cyfarpar na’r deunyddiau gydag enw brand perchnogaethol o fformiwla fabanod; a
(d)dim ond drwy’r system gofal iechyd y mae rhaid dosbarthu’r cyfarpar neu’r deunyddiau.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 4 wedi ei fewnosod (16.9.2021) gan Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/955), rhl. 1(2), Atod.