Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a deuant i rym am 12.01 a.m. ar 28 Awst 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 20202.
(1)
(2)
“(o)
ystyr “cartref gofal” yw mangre y mae “gwasanaeth cartref gofal” o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20163 yn cael ei ddarparu ynddi;(p)
ystyr “hosbis” yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer darparu gofal lliniarol i bersonau sy’n dioddef o glefyd sy’n gwaethygu ac sydd yn ei gyfnodau olaf, gan neu ar ran sefydliad y mae darparu gofal o’r fath yn brif swyddogaeth iddo;
(q)
ystyr “llety diogel” yw mangre y mae “gwasanaeth llety diogel” o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu ynddi.”
(3)
Yn rheoliad 7(2)(a), yn lle “2, 5 neu 6” rhodder “2 neu 5”.
(4)
Yn rheoliad 12(2A)—
(a)
yn lle’r geiriau o flaen is-baragraff (a) rhodder “Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—”,
(b)
“unrhyw un o’r canlynol, ar ei gais—
(i)
Gweinidogion Cymru,
(ii)
swyddog iechyd cyhoeddus,
(iii)
person a ddynodir gan yr awdurdod lleol y mae’r fangre yn ei ardal i brosesu gwybodaeth at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws”.
(5)
Yn rheoliad 14(2)—
(a)
“(jb)
cael gwasanaethau addysgol;”,
(b)
“(q)
ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, hosbis, neu lety diogel.”
(6)
“(f)
cael gwasanaethau addysgol.”
(7)
“Cyfyngiad ar drefnu digwyddiadau cerddorol penodol sydd heb eu trwyddedu14B.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu.
(2)
At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—
(a)
sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl,
(b)
lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 14(1) neu 14A(1),
(c)
lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant, neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a
(d)
lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—
(i)
y mae’n weithgarwch trwyddedadwy (o fewn ystyr Deddf Trwyddedu 20034), a(ii)
nas cynhelir o dan nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno).
(3)
At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol perthnasol sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad, neu na fyddai ond yn ymwneud â’r digwyddiad, drwy fynd iddo.
(4)
At ddibenion paragraff (1), mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oedd pobl yn ymgynnull yn y digwyddiad yn groes i reoliad 14(1) neu 14A(1).”
(8)
“(5A)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri, neu ar fin torri, rheoliad 14B(1), caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo’r person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i stopio neu atal y toriad;
(b)
mynd â’r person o leoliad neu leoliad arfaethedig y digwyddiad y mae’r swyddog yn amau ei fod yn cael ei drefnu, neu’n amau ei fod ar fin cael ei drefnu, yn groes i reoliad 14B(1) (a chaiff y swyddog ddefnyddio grym rhesymol i wneud hynny).”
(9)
Yn rheoliad 20—
(a)
ym mharagraff (1)(b), yn lle “14(1) neu 14A(1)” rhodder “14(1), 14A(1) neu 14B(1)”,
(b)
ym mharagraff (6), yn lle “baragraff 20(1)” rhodder “y Rheoliadau hyn”.
(10)
Yn rheoliad 21—
(a)
“(7A)
Pan ddyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 14B(1), rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (7)(c) fod yn £10,000 (ac nid yw paragraffau (9) a (10) yn gymwys).”;
(b)
ym mharagraff (8), yn lle “Rhaid” rhodder “Mewn unrhyw achos arall, rhaid”;
(c)
ym mharagraff (11), ar ôl “ystyriaeth” mewnosoder “, ond nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir i’r person hwnnw mewn cysylltiad â throsedd honedig o dorri rheoliad 14B(1)”.
(11)
Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 6.
(12)
“45.
Casinos”
Arbedion ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorol3.
Mae rheoliadau 20 ac 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau hynny wedi eu gwneud.
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—
yn darparu na chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu digwyddiadau cerddorol penodol sydd heb eu trwyddedu (o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 14B o’r prif Reoliadau fel y’i mewnosodir gan reoliad 2(7) o’r Rheoliadau hyn). Mae person sy’n methu â chydymffurfio â’r cyfyngiad yn cyflawni trosedd o dan reoliad 20(1)(b) o’r prif Reoliadau, a chaiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig o dan reoliad 21 i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni’r drosedd,
yn darparu bod gan bobl esgus rhesymol (o dan reoliad 14 o’r prif Reoliadau) i ymgynnull o dan do i ymweld â phreswylydd mewn cartref gofal, hosbis, neu lety diogel i blant,
yn egluro bod gan bobl hefyd esgus rhesymol i ymgynnull i gael gafael ar wasanaethau addysgol (o dan do fel esgus rhesymol o dan reoliad 14 o’r prif Reoliadau, ac yn yr awyr agored fel esgus rhesymol o dan reoliad 14A o’r Rheoliadau hynny, fel ei gilydd),
yn caniatáu i gasinos agor, ond rhaid cymryd mesurau i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre,
yn gwneud newidiadau technegol eraill, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ganlyniadol ar y diwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.