- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7. Yn Atodlen 1(1) (gofynion UE penodedig)—
(a)yn y rhan oʼr tabl syʼn ymwneud â Rheoliad yr UE, yn y cofnod syʼn ymwneud ag “Erthygl 15(1) (rhestr yr Undeb)”, yng ngholofn 2, yn lle “Erthyglau 1(1)(c), 4(1) aʼr Atodiad iʼr graddau y maeʼn gymwys i fwyd at ddibenion meddygol arbennig” rhodder “Erthyglau 1(1)(a) ac (c) a 4(1) aʼr Atodiad iʼr graddau y maeʼn gymwys i fformiwla fabanod, fformiwla ddilynol, a bwyd at ddibenion meddygol arbennig”;
(b)yn lleʼr rhan oʼr tabl syʼn ymwneud âʼr Rheoliad Dirprwyedig rhodder—
“Darpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig | Y darpariaethau sydd i gael eu darllen gydaʼr ddarpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig |
---|---|
Erthygl 2(2) (gofyniad i fformiwleiddiad bwyd fod yn seiliedig ar egwyddorion meddygol a maethol cadarn) | Erthygl 1 |
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 2(3) (gofyniad i fwyd at ddibenion meddygol arbennig a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod gydymffurfio âʼr gofynion o ran cyfansoddiad yn Rhan A o Atodiad 1) | Erthyglau 1 a 2(4) a Rhan A o Atodiad 1 |
Yr ail is-baragraff o Erthygl 2(3) (gofyniad i fwyd ac eithrio bwyd a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod gydymffurfio âʼr gofynion o ran cyfansoddiad yn Rhan B o Atodiad 1) | Erthyglau 1 a 2(4) a Rhan B o Atodiad 1 |
Erthygl 3(2) (gofyniad syʼn ymwneud âʼr trothwy gweddillion ar gyfer sylweddau gweithredol penodol pan fo bwyd at ddibenion meddygol arbennig yn cael ei ddatblygu i fodloni gofynion maethol babanod a phlant ifanc) | Erthyglau 1 a 3(1), (3) a (5) ac Atodiad 2 |
Erthygl 3(3) (uchafswm lefelau gweddillion ar gyfer y sylweddau a restrir yn Atodiad 2) | Erthyglau 1 a 3(1), (2) a (5) ac Atodiad 2 |
Erthygl 3(4) (gwahardd defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion) | Erthyglau 1 a 3(1) a (5) ac Atodiad 3 |
Erthygl 4 (enwʼr bwyd) | Erthygl 1 ac Atodiad 4 |
Erthygl 5(1) (gofyniad i fwyd at ddibenion meddygol arbennig gydymffurfio â Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011(2) oni phennir fel arall) | Erthyglau 1 a 5(2) |
Erthygl 5(2) (manylion mandadol ychwanegol syʼn ymwneud â gwybodaeth am fwyd) | Erthyglau 1 a 5(1) a (3) |
Erthygl 5(3) (cymhwyso Erthyglau 13(2) a (3) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 i fanylion mandadol ychwanegol) | Erthyglau 1 a 5(1) a (2) |
Erthygl 6 (gofynion penodol ynghylch y datganiad ynglŷn â maethiad) | Erthygl 1 ac Atodiad 1 |
Erthygl 7 (honiadau am faethiad ac iechyd) | Erthygl 1 |
Erthygl 8(1) (gofyniad i fanylion mandadol ymddangos mewn iaith syʼn hawdd ei deall gan ddefnyddwyr) | Erthygl 1 |
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 8(2) (gwahardd lluniau o fabanod neu luniau neu destun penodol arall) | Erthygl 1 |
Erthygl 8(3) (gofynion syʼn ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu) | Erthygl 1 |
Yr is-baragraff cyntaf o Erthygl 8(4) (cyfyngiad ar gyhoeddi) | Erthygl 1 aʼr trydydd is-baragraff o Erthygl 8(4) |
Erthygl 8(5) (gwahardd defnyddio dyfeisiau hyrwyddo i gymell gwerthiannau) | Erthygl 1 |
Erthygl 8(6) (gwahardd darparu cynhyrchion, samplau neu roddion hyrwyddo eraill am ddim neu am bris isel) | Erthygl 1 |
Erthygl 9 (hysbysu) | Erthygl 1” |
Amnewidiwyd y tabl yn Atodlen 1 gan O.S. 2019/70 (Cy. 22).
Rheoliad (EC) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop aʼr Cyngor dyddiedig 25 Hydref 2011 ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, syʼn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop aʼr Cyngor, ac syʼn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop aʼr Cyngor, Cyfarwyddebauʼr Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 (OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t. 18).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: