RHAN 2Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt2

1

Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin)

a

yn y man priodol mewnosoder—

ynysoedd Açores

Madeira

b

ar ôl “Gwlad Groeg” mewnosoder “, ac eithrio tiriogaethau Antiparos, Creta, Lesvos, Mykanos, Paros a Zakynthos”;

c

hepgorer “Polynesia Ffrengig”;

d

hepgorer “Portiwgal”.

2

Yn Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—

Gibraltar