(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006 (“y prif Reoliadau”). Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004.
Mae rheoliad 2 o’r prif Reoliadau yn darparu bod bwyd Cychwyn Iach, mewn perthynas â gweithredu’r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru, fel y’i nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 2(3) o’r Rheoliadau hyn yn ehangu’r diffiniad o fwyd Cychwyn Iach i gynnwys ffrwythau a llysiau a chodlysiau mewn tun.
Mae rheoliad 3 o’r prif Reoliadau yn darparu’r disgrifiad o fitaminau Cychwyn Iach a fydd yn gymwys mewn perthynas â gweithredu’r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru. Mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddileu’r cyfyngiad bod rhaid i fitaminau Cychwyn Iach gael eu darparu ar ffurf tabledi neu ddiferion yn unig, gyda’r effaith y caniateir iddynt gael eu cynhyrchu ar unrhyw ffurf.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 i ddileu’r gofyniad i gyflwyno tystysgrif sy’n cadarnhau beichiogrwydd at ddibenion cael bwyd lles.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.