NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol yn Neddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) o ran Cymru. Mae erthygl 2 yn dwyn i rym adran 52 o Ddeddf 2006, i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben paragraff 5(c) o Atodlen 5 i Ddeddf 2006. Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn y paragraff hwnnw i rym er mwyn diwygio’r diffiniad o “the local authority” yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.