- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16(4)(a), hepgorer “and by Part II of the Fire Precautions (Workplace) Regulations 1997”.
(3) Ym mharagraff 3 o Atodlen 1—
(a)yn is-baragraff (4), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;
(b)yn is-baragraff (6), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(c)yn is-baragraff (7)—
(i)yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(ii)ar ôl “unrhyw aelwyd arall” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno”.
(4) Ym mharagraff 3 o Atodlen 2—
(a)yn is-baragraff (4), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;
(b)yn lle is-baragraff (5) rhodder—
“(5) Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.”;
(c)yn is-baragraff (7), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(d)yn is-baragraff (8)—

(5) Ym mharagraff 3 o Atodlen 3—

(6) Yn Atodlen 4—
(a)ym mharagraff 1(4)(f)—
(i)ym mharagraff (ii), hepgorer “neu” yn yr ail le y mae’n digwydd;
(ii)ym mharagraff (iii), yn lle “;” rhodder “, neu”;
(iii)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—
“(iv)gydag 1 person arall nad yw’n aelod o aelwyd neu aelwyd estynedig y person nac yn ofalwr y person, ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall;”;”
(b)ym mharagraff 2(4), ar y diwedd mewnosoder—
“(i)gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ac eithrio mewn annedd breifat—
(i)gydag aelodau o aelwyd estynedig y person, neu
(ii)gydag 1 person arall ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall,
ynghyd ag unrhyw ofalwr i berson sy’n cymryd rhan sy’n bresennol.”;
(c)ym mharagraff 3—
(i)yn is-baragraff (3), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;
(ii)yn is-baragraff (4), yn y geiriau ar ôl paragraff (b)(ii)—
(aa)o flaen “dim ond” mewnosoder “(“yr aelwyd estynedig flaenorol”),”;
(bb)ar ôl “y paragraff hwn” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd un oedolyn gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol”;
(iii)yn is-baragraff (5), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(iv)yn is-baragraff (6)—
(aa)yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(bb)ar ôl “unrhyw aelwyd arall” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno”;
(d)ar ôl paragraff 62 mewnosoder—
“62A. Golchfeydd ceir awtomatig.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: