xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 16(4)(a), hepgorer “and by Part II of the Fire Precautions (Workplace) Regulations 1997”.

(3Ym mharagraff 3 o Atodlen 1—

(a)yn is-baragraff (4), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;

(b)yn is-baragraff (6), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(c)yn is-baragraff (7)—

(i)yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(ii)ar ôl “unrhyw aelwyd arall” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno”.

(4Ym mharagraff 3 o Atodlen 2—

(a)yn is-baragraff (4), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;

(b)yn lle is-baragraff (5) rhodder—

(5) Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.;

(c)yn is-baragraff (7), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(d)yn is-baragraff (8)—

(5Ym mharagraff 3 o Atodlen 3—

(6Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 1(4)(f)—

(i)ym mharagraff (ii), hepgorer “neu” yn yr ail le y mae’n digwydd;

(ii)ym mharagraff (iii), yn lle “;” rhodder “, neu”;

(iii)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

(iv)gydag 1 person arall nad yw’n aelod o aelwyd neu aelwyd estynedig y person nac yn ofalwr y person, ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall;”;

(b)ym mharagraff 2(4), ar y diwedd mewnosoder—

(i)gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ac eithrio mewn annedd breifat—

(i)gydag aelodau o aelwyd estynedig y person, neu

(ii)gydag 1 person arall ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall,

ynghyd ag unrhyw ofalwr i berson sy’n cymryd rhan sy’n bresennol.;

(c)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (3), ar ôl “1 aelwyd estynedig” mewnosoder “ar unrhyw un adeg”;

(ii)yn is-baragraff (4), yn y geiriau ar ôl paragraff (b)(ii)—

(aa)o flaen “dim ond” mewnosoder “(“yr aelwyd estynedig flaenorol”),”;

(bb)ar ôl “y paragraff hwn” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd un oedolyn gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol”;

(iii)yn is-baragraff (5), yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(iv)yn is-baragraff (6)—

(aa)yn y testun Saesneg, yn lle “being in” rhodder “part of” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(bb)ar ôl “unrhyw aelwyd arall” mewnosoder “oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno”;

(d)ar ôl paragraff 62 mewnosoder—

62A.  Golchfeydd ceir awtomatig.