Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Ionawr 2022, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym—

(a)adran 11 (cytundebau partneriaeth dreftadaeth);

(b)adran 28 (cytundebau partneriaeth dreftadaeth).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 18 (cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol) o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Chwefror 2022.