2021 Rhif 1064 (Cy. 251)

Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 3) (Cymru) 2021

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraffau 1(2) a 14(1) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 20201.

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 3) (Cymru) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Medi 2021.

Estyn y cyfnod perthnasol yn Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 20202

Ym mharagraff 1(1)(b)(ii) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 20202 (ystyr “the relevant period” o ran Cymru), yn lle “30 September 2021” rhodder “31 December 2021”.

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“Atodlen 29”).

Mae Atodlen 29 yn addasu darpariaethau statudol amrywiol, sy’n ymwneud â hysbysiadau y mae angen eu rhoi er mwyn ceisio adennill meddiant o anheddau, yn ystod y cyfnod perthnasol (fel y diffinnir “the relevant period” gan baragraff 1(1) o’r Atodlen honno).

Roedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/778 (Cy. 172)), ac yn rhannol, Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1044 (Cy. 233)), yn diwygio’r addasiadau a wneir gan Atodlen 29.

Roedd y ddarpariaeth a wneir gan Atodlen 29 i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Medi 2020 (ar ddiwedd y cyfnod perthnasol). Roedd rheoliad 3 o O.S. 2020/1044 (Cy. 233) yn diwygio paragraff 1(1)(b)(ii) o’r diffiniad o’r cyfnod perthnasol fel bod Atodlen 29 yn cael effaith o ran Cymru hyd at 31 Mawrth 2021. Roedd rheoliad 2 o Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/377 (Cy. 118)) a rheoliad 2 o Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/708 (Cy. 178)) yn diwygio paragraff 1(1)(b)(ii) o’r diffiniad o’r cyfnod perthnasol ymhellach fel bod Atodlen 29 wedi cael effaith, o ran Cymru, hyd at 30 Mehefin 2021 a 30 Medi 2021 yn y drefn honno.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraff 1(1)(b)(ii) ymhellach fel bod Atodlen 29 yn cael effaith (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/778 (Cy. 172) ac wedi hynny gan O.S. 2020/1044 (Cy. 233)), o ran Cymru, hyd at 31 Rhagfyr 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.