Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1069 (Cy. 252) (C. 61)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1) 2021

Gwnaed

21 Medi 2021

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1) 2021.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Medi 2021

2.  Daw adrannau 1 i 5 o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2021.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Medi 2021 at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf

3.  Ni ddaw adrannau 6 a 7 o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2021 ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan yr adrannau hynny.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 23 Tachwedd 2021 at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 8 o’r Ddeddf

4.  Ni ddaw adran 8 o’r Ddeddf i rym ar 23 Tachwedd 2021 ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan yr adran honno.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

21 Medi 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”).

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 2 i rym yn llawn ar 29 Medi 2021. Mae’r darpariaethau hyn yn nodi’r cysyniadau sylfaenol sy’n cael effaith mewn perthynas â’r cwricwlwm.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 29 Medi 2021 ond dim ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 6 (Cod yr Hyn sy’n Bwysig) ac adran 7 (y Cod Cynnydd) o’r Ddeddf.

Daw’r ddarpariaeth a restrir yn erthygl 4 i rym ar 23 Tachwedd 2021 ond dim ond at ddibenion dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 8 o’r Ddeddf (y Cod ACRh).