Enwi a chychwynLL+C
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
DehongliLL+C
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(2);
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Dinas a Sir Abertawe;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 6 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “6”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 2 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
Trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir AbertaweLL+C
3.—(1) Mae wardiau etholiadol Dinas a Sir Abertawe, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Dinas a Sir Abertawe wedi ei rhannu’n 32 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 3 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I6Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
Diddymu cymuned y Cocyd a chreu cymunedau y Cocyd a WaunarlwyddLL+C
4. Mae cymuned y Cocyd, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Ergl. 4 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I8Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
5. Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a)cymuned y Cocyd a ddangosir â llinellau ar fap 1;
(b)cymuned Waunarlwydd a ddangosir â llinellau ar fap 2.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Ergl. 5 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I10Ergl. 5 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
Diddymu cymunedau y Castell a St Thomas a chreu cymunedau y Castell, St Thomas, a’r GlannauLL+C
6. Mae cymunedau y Castell a St Thomas, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Ergl. 6 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I12Ergl. 6 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
7. Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a)cymuned y Castell a ddangosir â llinellau ar fap 3;
(b)cymuned St Thomas a ddangosir â llinellau ar fap 4;
(c)cymuned y Glannau a ddangosir â llinellau ar fap 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Ergl. 7 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I14Ergl. 7 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
Cymuned y Mwmbwls: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C
8. Mae’r rhan o ward West Cross o gymuned y Mwmbwls a ddangosir â llinellau ar fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Newton o gymuned y Mwmbwls.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Ergl. 8 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)
I16Ergl. 8 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
22 Medi 2021