2021 Rhif 1075 (Cy. 254)
Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mawrth 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021.
2
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.
3
At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20223.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19764;
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Dinas a Sir Abertawe;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 6 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “6”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe3
1
Mae wardiau etholiadol Dinas a Sir Abertawe, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
2
Mae Dinas a Sir Abertawe wedi ei rhannu’n 32 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
3
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
4
Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
5
Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.
Diddymu cymuned y Cocyd a chreu cymunedau y Cocyd a Waunarlwydd
4
Mae cymuned y Cocyd, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu.
5
Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—
a
cymuned y Cocyd a ddangosir â llinellau ar fap 1;
b
cymuned Waunarlwydd a ddangosir â llinellau ar fap 2.
Diddymu cymunedau y Castell a St Thomas a chreu cymunedau y Castell, St Thomas, a’r Glannau
6
Mae cymunedau y Castell a St Thomas, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
7
Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu ffurfio—
a
cymuned y Castell a ddangosir â llinellau ar fap 3;
b
cymuned St Thomas a ddangosir â llinellau ar fap 4;
c
cymuned y Glannau a ddangosir â llinellau ar fap 5.
Cymuned y Mwmbwls: newidiadau i wardiau cymunedol8
Mae’r rhan o ward West Cross o gymuned y Mwmbwls a ddangosir â llinellau ar fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Newton o gymuned y Mwmbwls.
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Bishopston | Llandeilo Ferwallt | Cymuned Llandeilo Ferwallt | 1 |
Bôn-y-maen | Bôn-y-maen | Cymuned Bôn-y-maen | 2 |
Castle | Y Castell | Cymuned y Castell | 4 |
Clydach | Clydach | Cymuned Clydach a ward Craig-cefn-parc o gymuned Mawr | 3 |
Cockett | Y Cocyd | Cymuned y Cocyd | 3 |
Cwmbwrla | Cwmbwrla | Cymuned Cwmbwrla | 3 |
Dunvant and Killay | Dyfnant a Chilâ | Cymunedau Dyfnant a Chilâ | 3 |
Fairwood | Fairwood | Cymunedau y Crwys a Chilâ Uchaf | 1 |
Gorseinon and Penyrheol | Gorseinon a Phenyrheol | Cymuned Gorseinon a chymuned Pengelli a Waun-gron | 3 |
Gower | Gŵyr | Cymuned Llangynydd a chymunedau Llanmadog a Cheriton, Llanrhidian Isaf, Pen-rhys, Portheinon, Reynoldston, a Rhosili | 1 |
Gowerton | Tregŵyr | Cymuned Tregŵyr | 2 |
Landore | Glandŵr | Cymuned Glandŵr | 2 |
Llangyfelach | Llangyfelach | Cymuned Llangyfelach a ward Felindre o gymuned Mawr | 1 |
Llansamlet | Llansamlet | Cymuned Llansamlet | 4 |
Llwchwr | Llwchwr | Cymuned Llwchwr | 3 |
Mayals | Mayals | Ward Mayals o gymuned y Mwmbwls | 1 |
Morriston | Treforys | Cymuned Treforys | 5 |
Mumbles | Y Mwmbwls | Wardiau Newton ac Ystumllwynarth o gymuned y Mwmbwls | 3 |
Mynydd-bach | Mynydd-bach | Cymuned Mynydd-bach | 3 |
Pen-clawdd | Pen-clawdd | Cymuned Llanrhidian Uchaf | 1 |
Penderry | Penderi | Cymuned Penderi | 3 |
Penllergaer | Penlle’r-gaer | Cymuned Penlle’r-gaer | 1 |
Pennard | Pennard | Cymunedau Pennard a Llanilltud Gŵyr | 1 |
Pontarddulais | Pontarddulais | Cymuned Pontarddulais a ward Garn-swllt o gymuned Mawr | 2 |
Pontlliw and Tircoed | Pont-lliw a Thir-coed | Cymuned Pont-lliw a Thir-coed | 1 |
Sketty | Sgeti | Cymuned Sgeti | 5 |
St Thomas | St Thomas | Cymuned St Thomas | 2 |
Townhill | Townhill | Cymuned Townhill | 3 |
Uplands | Uplands | Cymuned Uplands | 4 |
Waterfront | Y Glannau | Cymuned y Glannau | 1 |
Waunarlwydd | Waunarlwydd | Cymuned Waunarlwydd | 1 |
West Cross | West Cross | Ward West Cross o gymuned y Mwmbwls | 2 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)