2021 Rhif 1080 (Cy. 255)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mawrth 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a), (b) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021.

2

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

3

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20223.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19764;

  • ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;

  • mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 9 map a farciwyd “Map Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “9”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

  • pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

  • mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf3

1

Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

2

Mae Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ei rhannu’n 46 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

3

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

4

Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

5

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.

Cymuned Llanilltud Faerdref: newidiadau i ffiniau ward gymunedol4

Mae’r rhan o ward Ton-teg ward o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref.

Cymuned Llanilltud Faerdref: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol5

Nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref yw 5.

Cymuned Pont-y-clun: diddymu wardiau cymunedol a’u creu

6

Mae wardiau cymunedol Cefnyrhendy, y Groes-faen, Maes-y-felin a Meisgyn yng nghymuned Pont-y-clun wedi eu diddymu.

7

Mae cymuned Pont-y-clun i’w rhannu i ffurfio’r wardiau a ganlyn—

a

ward Dwyrain Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 2;

b

ward Canol Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 3;

c

ward Gorllewin Pont-y-clun a ddangosir â llinellau ar Fap 4.

Cymuned Pont-y-clun: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol8

Yng nghymuned Pont-y-clun—

a

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Pont-y-clun yw 3;

b

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Pont-y-clun yw 4;

c

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Pont-y-clun yw 4.

Cymunedau Llwynypia, Trealaw ac Ystrad: newidiadau i ffiniau cymunedol9

1

Mae’r rhan o gymuned Ystrad a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.

2

Mae’r rhan o gymuned Trealaw a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i gymuned Llwynypia.

Cymunedau Trehafod a Thref Pontypridd: newidiadau i ffiniau cymunedol10

Mae’r rhan o gymuned Tref Pontypridd a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i gymuned Trehafod.

Cymuned Tref Pontypridd: diddymu wardiau cymunedol a’u creu

11

Mae wardiau cymunedol y Ddraenen-wen, Ilan, Canol Rhydfelen, a Rhydfelen Isaf yng nghymuned Tref Pontypridd wedi eu diddymu.

12

Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio yng nghymuned Tref Pontypridd—

a

ward Canol Rhydfelen a ddangosir â llinellau ar Fap 7;

b

ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf a ddangosir â llinellau ar Fap 8;

c

ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf a ddangosir â llinellau ar Fap 9.

Cymuned Tref Pontypridd: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol13

Yng nghymuned Tref Pontypridd—

a

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Rhydfelen yw 2;

b

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf yw 2;

c

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf yw 2;

d

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Rhondda yw 3;

e

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trefforest yw 3.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 3

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Aberaman

Aberaman

Cymunedau Gogledd Aberaman a De Aberaman

3

Abercynon

Abercynon

Cymuned Abercynon

2

Aberdare East

Dwyrain Aberdâr

Cymuned Dwyrain Aberdâr

2

Aberdare West and Llwydcoed

Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed

Cymunedau Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed

3

Beddau and Tyn-y-nant

Beddau a Thyn-y-nant

Wardiau Beddau a Thyn-y-nant o gymuned Llanilltud Faerdref

2

Brynna and Llanharan

Brynna a Llanharan

Wardiau Brynna, Llanilid a Llanharan o gymuned Llanharan

3

Church Village

Pentre’r Eglwys

Ward Pentre’r Eglwys o gymuned Llanilltud Faerdref

2

Cilfynydd

Cilfynydd

Ward Cilfynydd o gymuned Tref Pontypridd

1

Cwm Clydach

Cwm Clydach

Cymuned Cwm Clydach

1

Cwmbach

Cwm-bach

Cymuned Cwm-bach

2

Cymer

Cymer

Cymunedau Cymer a Threhafod

2

Ferndale and Maerdy

Glynrhedynog a’r Maerdy

Cymunedau Glynrhedynog a’r Maerdy

2

Gilfach-goch

Gilfach-goch

Cymuned Gilfach-goch

1

Glyn-coch

Glyn-coch

Ward Glyn-coch o gymuned Tref Pontypridd

1

Graig and Pontypridd West

Y Graig a Gorllewin Pontypridd

Wardiau y Graig a Rhondda o gymuned Tref Pontypridd

2

Hawthorn and Lower Rhydfelen

Y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf

Ward y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf o gymuned Tref Pontypridd

1

Hirwaun, Penderyn and Rhigos

Hirwaun, Penderyn a’r Rhigos

Cymunedau Hirwaun a’r Rhigos

2

Llanharry

Llanhari

Ward Llanhari o gymuned Llanhari

1

Llantrisant and Talbot Green

Llantrisant a Thonysguboriau

Wardiau Tref Llantrisant a Thonysguboriau o gymuned Llantrisant

2

Llantwit Fardre

Llanilltud Faerdref

Wardiau Efail Isaf a Llanilltud Faerdref o gymuned Llanilltud Faerdref

2

Llwyn-y-pia

Llwynypia

Cymuned Llwynypia

1

Mountain Ash

Aberpennar

Cymunedau Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar

2

Penrhiw-ceibr

Penrhiw-ceibr

Cymuned Penrhiw-ceibr

2

Pentre

Pentre

Cymuned Pentre

2

Pen-y-graig

Pen-y-graig

Cymuned Pen-y-graig

2

Pen-y-waun

Pen-y-waun

Cymuned Pen-y-waun

1

Pontyclun Central

Canol Pont-y-clun

Ward Canol Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun

1

Pontyclun East

Dwyrain Pont-y-clun

Ward Dwyrain Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun

1

Pontyclun West

Gorllewin Pont-y-clun

Ward Gorllewin Pont-y-clun o gymuned Pont-y-clun a ward Tylegarw o gymuned Llanhari

1

Pontypridd Town

Tref Pontypridd

Ward Tref Pontypridd o gymuned Tref Pontypridd

1

Porth

Porth

Cymuned Porth

2

Rhydfelen Central

Canol Rhydfelen

Ward Canol Rhydfelen o gymuned Tref Pontypridd

1

Taff’s Well

Ffynnon Taf

Cymuned Ffynnon Taf

1

Ton-teg

Ton-teg

Ward Ton-teg o gymuned Llanilltud Faerdref

1

Tonypandy

Tonypandy

Cymuned Tonypandy

1

Tonyrefail East

Dwyrain Tonyrefail

Wardiau Coedelái, Collena a Thylcha o gymuned Tonyrefail

2

Tonyrefail West

Gorllewin Tonyrefail

Wardiau Penrhiw-fer, Tretomas a Thyn-y-bryn o gymuned Tonyrefail

2

Trallwng

Trallwng

Ward Trallwng o gymuned Tref Pontypridd

1

Trealaw

Trealaw

Cymuned Trealaw

1

Treforest

Trefforest

Ward Trefforest o gymuned Tref Pontypridd

1

Treherbert

Treherbert

Cymuned Treherbert

2

Treorchy

Treorci

Cymuned Treorci

2

Tylorstown and Ynyshir

Tylorstown ac Ynys-hir

Cymunedau Tylorstown ac Ynys-hir

2

Upper Rhydfelen and Glyn-taf

Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf

Ward Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf o gymuned Tref Pontypridd

1

Ynysybwl

Ynys-y-bwl

Cymuned Ynys-y-bwl a Choed-y-cwm

2

Ystrad

Ystrad

Cymuned Ystrad

2

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mawrth 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 52 i 46, ond argymhellwyd bod nifer y cynghorwyr yn parhau yn 75.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Ton-teg a Phentre’r Eglwys yng nghymuned Llanilltud Faerdref. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentre’r Eglwys.

Mae erthygl 6 yn diddymu’r wardiau cymunedol yng nghymuned Pont-y-clun, ac mae erthygl 7 yn creu wardiau cymunedol newydd Dwyrain Pont-y-clun, Canol Pont-y-clun a Gorllewin Pont-y-clun. Mae erthygl 8 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.

Mae erthygl 9 yn gwneud newidiadau i ffiniau cymunedau Ystrad, Llwynypia a Threalaw.

Mae erthygl 10 yn darparu ar gyfer trosglwyddo ardal o gymuned Tref Pontypridd i gymuned Trehafod.

Mae erthygl 11 yn diddymu wardiau cymunedol y Ddraenen-wen, Ilan, Canol Rhydfelen a Rhydfelen Isaf yng nghymuned Tref Pontypridd. Mae erthygl 12 yn creu wardiau cymunedol newydd Canol Rhydfelen, y Ddraenen-wen a Rhydfelen Isaf, a Rhydfelen Uchaf a Glyn-taf. Mae erthygl 13 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau newydd hyn, ac yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol yn wardiau Cwm Rhondda a Threfforest.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “9” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Cymru), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.