Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1084 (Cy. 258)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

22 Medi 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Hydref 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

DehongliLL+C

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 7 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “7”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 2 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar OgwrLL+C

3.—(1Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei rannu’n 28 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 3 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(2)

Cymuned Bracla: creu wardiau cymunedolLL+C

4.  Mae cymuned Bracla i’w rhannu’n wardiau fel a ganlyn—

(a)ward Gorllewin Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 1;

(b)ward Canol Gorllewin Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 2;

(c)ward Canol Dwyrain Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 3;

(d)ward Dwyrain Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 4 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Bracla: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

5.  Yng nghymuned Bracla—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Bracla yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Gorllewin Bracla yw 3;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain Bracla yw 3;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Bracla yw 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 5 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I10Ergl. 5 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Porthcawl: newidiadau i ffiniau wardiau cymunedolLL+C

6.  Yng nghymuned Porthcawl—

(a)mae’r rhan o ward Notais a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Rest Bay;

(b)mae’r rhan o ward Rest Bay a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Gorllewin Porthcawl;

(c)mae’r rhan o ward Drenewydd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl;

(d)mae’r rhan o ward Canol Gorllewin Porthcawl a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Ergl. 6 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I12Ergl. 6 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Porthcawl: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

7.  Yng nghymuned Porthcawl—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Notais yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Drenewydd yw 3;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Gorllewin Porthcawl yw 3;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain Porthcawl yw 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Ergl. 7 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I14Ergl. 7 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

22 Medi 2021

Erthygl 3

YR ATODLENLL+CENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
AberkenfigAbercynffigWard Abercynffig o gymuned Castellnewydd Uchaf a chymuned Llangynwyd Isaf1
BlackmillMelin Ifan DduWardiau Melin Ifan Ddu ac Evanstown o gymuned Cwm Ogwr1
Brackla East and Coychurch LowerDwyrain Bracla a Llangrallo IsafWard Dwyrain Bracla o gymuned Bracla a chymuned Llangrallo Isaf2
Brackla East CentralCanol Dwyrain BraclaWard Canol Dwyrain Bracla o gymuned Bracla1
Brackla WestGorllewin BraclaWard Gorllewin Bracla o gymuned Bracla1
Brackla West CentralCanol Gorllewin BraclaWard Canol Gorllewin Bracla o gymuned Bracla1
Bridgend CentralCanol Pen-y-bont ar OgwrWardiau Morfa a Chastellnewydd o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr3
Bryntirion, Laleston and Merthyr MawrBryntirion, Trelales a Merthyr MawrCymuned Merthyr Mawr, a ward Trelales / Bryntirion o gymuned Trelales3
CaerauCaerauWardiau Caerau a Nantyffyllon o gymuned Maesteg2
Cefn-glasCefn-glasWardiau Cefn-glas 1 a Chefn-glas 2 o gymuned Trelales2
Coity HigherCoety UchafCymuned Coety Uchaf3
CornellyCorneliCymuned Corneli3
Garw ValleyCwm GarwCymuned Cwm Garw3
LlangynwydLlangynwydWardiau Cwmfelin a Phont-rhyd-y-cyff o gymuned Llangynwyd Ganol1
Maesteg EastDwyrain MaestegWard Dwyrain Maesteg o gymuned Maesteg2
Maesteg WestGorllewin MaestegWard Gorllewin Maesteg o gymuned Maesteg2
Nant-y-moelNant-y-moelWard Nant-y-moel o gymuned Cwm Ogwr1
NewtonDrenewyddWard Drenewydd o gymuned Porthcawl1
NottageNotaisWard Notais o gymuned Porthcawl1
Ogmore ValeBro OgwrWard Bro Ogwr o gymuned Cwm Ogwr1
OldcastleHengastellWard Hengastell o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr2
Pencoed and PenprysgPencoed a Phen-prysgCymuned Pencoed a chymuned Llangrallo Uchaf3
Pen-y-faiPen-y-faiWard Pen-y-fai o gymuned Castellnewydd Uchaf1
Porthcawl East CentralCanol Dwyrain PorthcawlWard Canol Dwyrain Porthcawl o gymuned Porthcawl2
Porthcawl West CentralCanol Gorllewin PorthcawlWard Canol Gorllewin Porthcawl o gymuned Porthcawl1
Pyle, Kenfig Hill and Cefn CribwrY Pîl, Cynffig a Chefn CribwrCymunedau Cefn Cribwr a’r Pîl3
Rest BayRest BayWard Rest Bay o gymuned Porthcawl1
St Bride’s Minor and YnysawdreLlansanffraid-ar-Ogwr ac YnysawdreCymunedau Llansanffraid-ar-Ogwr ac Ynysawdre3

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Hydref 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 39 i 28, a lleihau nifer y cynghorwyr o 54 i 51.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n amlinellu’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae erthygl 4 yn creu wardiau cymunedol newydd Gorllewin Bracla, Canol Gorllewin Bracla, Canol Dwyrain Bracla a Dwyrain Bracla yng nghymuned Bracla. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer y wardiau newydd hyn.

Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Notais, Rest Bay, Drenewydd, Canol Gorllewin Porthcawl a Chanol Dwyrain Porthcawl yng nghymuned Porthcawl. Mae erthygl 7 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer wardiau Notais, Drenewydd, Canol Gorllewin Porthcawl a Chanol Dwyrain Porthcawl.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “7” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y mae darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.