2021 Rhif 1084 (Cy. 258)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Hydref 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwynI1I21

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021.

2

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

3

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20223.

Annotations:
Commencement Information
I1

Ergl. 1 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2

Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

DehongliI3I42

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19764;

  • ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

  • mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 7 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “7”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

  • os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

  • mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Annotations:
Commencement Information
I3

Ergl. 2 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4

Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar OgwrI5I63

1

Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

2

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei rannu’n 28 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

3

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

4

Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

5

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.

Annotations:
Commencement Information
I5

Ergl. 3 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6

Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(2)

Cymuned Bracla: creu wardiau cymunedolI7I84

Mae cymuned Bracla i’w rhannu’n wardiau fel a ganlyn—

a

ward Gorllewin Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 1;

b

ward Canol Gorllewin Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 2;

c

ward Canol Dwyrain Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 3;

d

ward Dwyrain Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 4.

Annotations:
Commencement Information
I7

Ergl. 4 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8

Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Bracla: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolI9I105

Yng nghymuned Bracla—

a

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Bracla yw 3;

b

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Gorllewin Bracla yw 3;

c

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain Bracla yw 3;

d

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Bracla yw 3.

Annotations:
Commencement Information
I9

Ergl. 5 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I10

Ergl. 5 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Porthcawl: newidiadau i ffiniau wardiau cymunedolI11I126

Yng nghymuned Porthcawl—

a

mae’r rhan o ward Notais a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Rest Bay;

b

mae’r rhan o ward Rest Bay a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Gorllewin Porthcawl;

c

mae’r rhan o ward Drenewydd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl;

d

mae’r rhan o ward Canol Gorllewin Porthcawl a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl.

Annotations:
Commencement Information
I11

Ergl. 6 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I12

Ergl. 6 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Porthcawl: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolI13I147

Yng nghymuned Porthcawl—

a

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Notais yw 3;

b

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Drenewydd yw 3;

c

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Gorllewin Porthcawl yw 3;

d

nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain Porthcawl yw 6.

Annotations:
Commencement Information
I13

Ergl. 7 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I14

Ergl. 7 mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

I15I16YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 3

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I16

Atod. mewn grym ar 5.5.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Aberkenfig

Abercynffig

Ward Abercynffig o gymuned Castellnewydd Uchaf a chymuned Llangynwyd Isaf

1

Blackmill

Melin Ifan Ddu

Wardiau Melin Ifan Ddu ac Evanstown o gymuned Cwm Ogwr

1

Brackla East and Coychurch Lower

Dwyrain Bracla a Llangrallo Isaf

Ward Dwyrain Bracla o gymuned Bracla a chymuned Llangrallo Isaf

2

Brackla East Central

Canol Dwyrain Bracla

Ward Canol Dwyrain Bracla o gymuned Bracla

1

Brackla West

Gorllewin Bracla

Ward Gorllewin Bracla o gymuned Bracla

1

Brackla West Central

Canol Gorllewin Bracla

Ward Canol Gorllewin Bracla o gymuned Bracla

1

Bridgend Central

Canol Pen-y-bont ar Ogwr

Wardiau Morfa a Chastellnewydd o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr

3

Bryntirion, Laleston and Merthyr Mawr

Bryntirion, Trelales a Merthyr Mawr

Cymuned Merthyr Mawr, a ward Trelales / Bryntirion o gymuned Trelales

3

Caerau

Caerau

Wardiau Caerau a Nantyffyllon o gymuned Maesteg

2

Cefn-glas

Cefn-glas

Wardiau Cefn-glas 1 a Chefn-glas 2 o gymuned Trelales

2

Coity Higher

Coety Uchaf

Cymuned Coety Uchaf

3

Cornelly

Corneli

Cymuned Corneli

3

Garw Valley

Cwm Garw

Cymuned Cwm Garw

3

Llangynwyd

Llangynwyd

Wardiau Cwmfelin a Phont-rhyd-y-cyff o gymuned Llangynwyd Ganol

1

Maesteg East

Dwyrain Maesteg

Ward Dwyrain Maesteg o gymuned Maesteg

2

Maesteg West

Gorllewin Maesteg

Ward Gorllewin Maesteg o gymuned Maesteg

2

Nant-y-moel

Nant-y-moel

Ward Nant-y-moel o gymuned Cwm Ogwr

1

Newton

Drenewydd

Ward Drenewydd o gymuned Porthcawl

1

Nottage

Notais

Ward Notais o gymuned Porthcawl

1

Ogmore Vale

Bro Ogwr

Ward Bro Ogwr o gymuned Cwm Ogwr

1

Oldcastle

Hengastell

Ward Hengastell o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr

2

Pencoed and Penprysg

Pencoed a Phen-prysg

Cymuned Pencoed a chymuned Llangrallo Uchaf

3

Pen-y-fai

Pen-y-fai

Ward Pen-y-fai o gymuned Castellnewydd Uchaf

1

Porthcawl East Central

Canol Dwyrain Porthcawl

Ward Canol Dwyrain Porthcawl o gymuned Porthcawl

2

Porthcawl West Central

Canol Gorllewin Porthcawl

Ward Canol Gorllewin Porthcawl o gymuned Porthcawl

1

Pyle, Kenfig Hill and Cefn Cribwr

Y Pîl, Cynffig a Chefn Cribwr

Cymunedau Cefn Cribwr a’r Pîl

3

Rest Bay

Rest Bay

Ward Rest Bay o gymuned Porthcawl

1

St Bride’s Minor and Ynysawdre

Llansanffraid-ar-Ogwr ac Ynysawdre

Cymunedau Llansanffraid-ar-Ogwr ac Ynysawdre

3

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Hydref 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 39 i 28, a lleihau nifer y cynghorwyr o 54 i 51.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n amlinellu’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae erthygl 4 yn creu wardiau cymunedol newydd Gorllewin Bracla, Canol Gorllewin Bracla, Canol Dwyrain Bracla a Dwyrain Bracla yng nghymuned Bracla. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer y wardiau newydd hyn.

Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Notais, Rest Bay, Drenewydd, Canol Gorllewin Porthcawl a Chanol Dwyrain Porthcawl yng nghymuned Porthcawl. Mae erthygl 7 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer wardiau Notais, Drenewydd, Canol Gorllewin Porthcawl a Chanol Dwyrain Porthcawl.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “7” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y mae darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.